Newyddion

Taith Prydain yn dod i Gasnewydd ar 2 Medi

Wedi ei bostio ar Monday 20th August 2018
Tour of Britain 2

Casnewydd fydd yn croesawu diwedd cymal cyntaf ras feicio Taith Prydain ddydd Sul 2 Medi.

Mae beicwyr proffesiynol o bob cwr o'r byd, gan gynnwys pencampwr y Tour de France Geraint Thomas ac enwau adnabyddus eraill, yn cymryd rhan yn y ras a fydd ar y teledu ac sydd yn dechrau yn sir Gâr ac yn gorffen wythnos yn ddiweddarach yn Llundain.

Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Dyma'r digwyddiad beicio proffesiynol uchaf ei broffil yn y DU felly mae hyn yn gryn bluen yn het y ddinas. Rydym yn gwneud y cyfan a allwn i leihau ar y tarfu a byddwn yn cau ffyrdd wrth i'r ras agosáu a'u hail agor yn syth wedi i'r ras basio.

 "Rwy'n mawr obeithio y bydd pobl yn cefnogi'r digwyddiad pwysig hwn yn y calendr chwaraeon ac yn rhoi croeso cynnes i'r beicwyr a'r ymwelwyr wrth iddynt fwynhau'r achlysur yn ein dinas."

Wedi gadael Brynbuga, bydd y ras yn cyrraedd Caerllion, gan basio ar hyd Usk Road, Mill Street, Castle Street, Caerleon Bridge a New Road, cyn teithio i fyny Belmont Hill.

Bydd y beicwyr wedyn yn mynd i lawr Roya Oak Hill, troi i'r dde i Chepstow Road, ymlaen i Somerton Road a Nash Road ac yna'r SDR cyn gorffen ar Usk Way yng nghanol y ddinas.

Ar gyfer y rhan fwyaf o'r llwybr yng Nghasnewydd, bydd y ffyrdd yn ailagor cyn gynted ag y bydd y beicwyr wedi pasio drwodd yn ddiogel. Fodd bynnag, bydd angen ffyrdd clir felly rhaid i bob cerbyd gael ei symud erbyn 12pm a gallant ddychwelyd ar ôl 4pm.

I gynorthwyo preswylwyr a busnesau yn Mill Street a Castle Street yng Nghaerllion, bydd parcio ar gael yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Charles Williams, ar High Street. Ar gyfer pobl a fydd ar lwybr y ras ar Chepstow Road, Somerton Road a Nash Road, bydd llefydd parcio ar gael yn ysgol gynradd Llyswyry.

Bydd Usk Way wedi ei gau yn llwyr o gylchfan yr Harlecwin i'r gyffordd ar East Dock Road, o 4am hyd 9pm.

Er na ddisgwylir i'r beicwyr ar flaen y ras gyrraedd y llinell derfyn tan ganol y prynhawn, fe fydd gweithgareddau yng nghanol y ddinas yn ystod diwedd y bore a'r prynhawn i ddiddanu'r gwylwyr.

Mae Newport Live yn trefnu sesiynau hwyl a chwaraeon ar Usk Way o 11.30am hyd 12.30pm a 1.30pm i 2.15pm tra bydd British Cycling yn defnyddio'r ardal rhwng 12.30pm a 1.30pm.

Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar gael yno i osod marciau diogelwch ar feiciau a hyrwyddo atal troseddau beics.

Bydd raciau beics yn cael eu gosod yn yr ardal ger the Wave i'r rhai hynny fyddai'n dymuno beicio i ganol y ddinas.

Bydd Maes parcio aml lawr Park Square ar agor o 7am hyd 7pm. Bydd maes parcio Kingsway hefyd ar agor, er y bydd mynediad yno ac oddi yno ar hyd Cardiff Road yn hytrach nag Usk Way, a gall gyrwyr hefyd ddefnyddio maes parcio'r NCP oddi ar yr Old Green Crossing.

Bydd maes parcio Friars Walk wedi cau ond bydd y siopau a'r tai bwyta ar agor.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amcan o amseroedd y ras a manylion cau'r ffyrdd, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Leisure-Tourism/whats-on-in-newport/Whats-On.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.