Newyddion

Casnewydd i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol 3 Medi

Wedi ei bostio ar Thursday 30th August 2018

Ar ddydd Llun 3 Medi, bydd y Lluman Goch yn cael ei hedfan dros y Ganolfan Ddinesig yng Nghasnewydd i gydnabod gwaith hanfodol morwyr y Llynges Fasnachol ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd seremoni i fendithio a chodi fflag swyddogol y Llynges Fasnachol yn dechrau am 10am y tu allan i'r brif dderbynfa. Cynhelir y gwasanaeth gan y Parchedig Mark Lawson-Jones, o'r Genhadaeth i Forwyr.

Bydd yn cynnwys darlleniad gan Faer Casnewydd, y Cynghorydd Malcolm Linton, a neges gan EMH Iarll Wessex drwy Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken. Bydd Alan Speight o Gymdeithas Llynges Fasnachol Casnewydd yn codi'r faner.

Bydd cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog yn bresennol yn ogystal ag Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, cynghorwyr a chyflogeion. 

Mae Casnewydd yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK a Chymdeithas y Llynges Fasnachol am chwifio'r faner ar wyliau cyhoeddus ac ar byst baneri pwysig.

Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod y Llynges Fasnachol, ewch i www.merchantnavyfund.org

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.