Newyddion

Ffair Swyddi Casnewydd yn dychwelyd i 2018

Wedi ei bostio ar Friday 17th August 2018

Cynhelir Ffair Swyddi flynyddol Cyngor Dinas Casnewydd ddydd Iau 23 Awst yng Nghanolfan Mileniwm y Pîl, 10am-1pm. Bydd llawer o swyddi'n cael eu cynnig eto o ystod eang o fusnesau.

Mae'r Ffair, a drefnir gan Academi Dysgu ar Sail Gwaith y cyngor, yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Y llynedd dros busnesau ar ben eu digon â nifer y bobl ddaeth a safon yr ymgeiswyr posibl.

Ymhlith y cwmnïau sy'n chwilio am recriwtiaid mae Dean Close Nurseries, Amberport/PortSec Security, The Gym Group, United Living, Newport Norse, Allied Healthcare, Q Care, Liberty Steel, Wastesavers, Cordant People, The Laurel Hub, Apollo Teaching, y Llynges Frenhinol, Nu Staff Recruitment, RMS, Eurograph, Bluewater SSCL ac eraill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae ffair swyddi flynyddol Caerdydd bob amser yn brysur, gan ddenu busnesau sy'n chwilio am staff newydd ac unigolion sy'n chwilio am waith.

 "P'un ai a yw'n swydd gyntaf neu'n rôl newydd i bobl, mae hwn yn gyfle rhagorol i gwrdd ag ystod eang o fusnesau, oll yn cynnig cyfleoedd cyffrous.

 "Hoffwn ddiolch i'r WBLA a'r Ganolfan Byd Gwaith yn benodol, ar gyfer sicrhau llwyddiant y digwyddiad, yn ogystal â'r holl fusnesau a darparwyr hyfforddiant sy'n cyfrannu. Mae wedi bod yn ddigwyddiad pwysig iawn yn y ddinas bob blwyddyn."

                                 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.