Newyddion

Cadeirydd newydd ar gyfer Comisiwn Tegwch Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 30th August 2018

Mae’r academydd o fri rhyngwladol, Dr Gideon Calder, wedi cael ei benodi’n gadeirydd Comisiwn Tegwch Casnewydd.

Mae Dr Calder yn cymryd lle’r Athro Steve Smith y diolchwyd iddo am ei holl waith caled wrth helpu Cyngor Dinas Casnewydd i sefydlu CTC yn 2012.

Dan arweiniad yr Athro Smith, mae’r Comisiwn wedi ei sefydlu ei hun yn un o’r comisiynau mwyaf hirhoedlog a blaengar wrth iddo esblygu a datblygu ffyrdd o graffu’n systematig ar broses benderfynu llywodraeth leol.

 Er bod Comisiynau Tegwch eraill yn Lloegr ac yn yr Alban, Comisiwn Tegwch Casnewydd yw’r unig un yng Nghymru ac mae ei aelodau wedi helpu i greu a chyflwyno hyfforddiant ar degwch a gwerthuso polisi ac ymarfer i benderfynwyr allweddol wrth hybu trafodaeth am degwch ymhlith y cyhoedd.

Mae Dr Calder wedi bod yn aelod gweithgar o’r Comisiwn ers ei sefydlu, mae wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgorau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd at raglenni radio a theledu’r BBC ynglŷn â sawl mater sy’n effeithio ar fywydau preswylwyr Casnewydd.

Ers symud o Brifysgol De Cymru i rôl newydd ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Awst 2016, mae Dr Calder wedi cynnal cysylltiadau cryf iawn â Chasnewydd trwy’i waith yn y Comisiwn ac mewn mannau eraill.

Meddai’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, “Hoffem ddiolch i’r Athro Steve Smith am ei help yn llunio Comisiwn Tegwch Casnewydd ers ei sefydlu yn 2012.

 “Ac rydym yn rhagweld y bydd arweinyddiaeth Dr Calder, ynghyd â’i brofiad a’i enw da, yn sicrhau dyfodol y Comisiwn fel corff annibynnol bywiog a dynamig a fydd yn herio ac yn ymgysylltu â barn y cyhoedd a bydd prosesau penderfynu gwleidyddol ynghylch gwerth tegwch yn cael eu gwarantu.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.