Ymunwch â hwyl Taith Prydain yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 28th August 2018
Mae Taith Prydain yn dod i Gasnewydd ar ddydd Sul 2 Medi, ar ddiwrnod cyntaf y ras wythnos o hyd o amgylch y DU.
Bydd y seiclwyr, gydag enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, yn eu plith, yn gadael Sir Gâr yn y bore ac yn teithio i Gasnewydd i orffen cam cyntaf y ras.
Ar ôl seiclo drwy Gaerllion, byddant yn teithio i fyny Bryn Belmont a lawr i Chepstow Road drwy'r SDR cyn mentro am y llinell derfyn ar Usk Way ger Prifysgol De Cymru yng nghanol y ddinas.
I'r rhai fydd yn disgwyl y seiclwyr yng nghanol y ddinas, bydd llu o weithgareddau i'w cadw'n ddiddan.
Bydd tîm datblygu chwaraeon Casnewydd Fyw ar Usk Way rhwng 11.30am a 12.30pm ac wedyn rhwng 1.30pm a 2.15pm i hyrwyddo cyfleoedd seiclo sydd ar gael i blant yn Felodrom Cymru, fydd yn newid ei henw cyn hir i Felodrom Genedlaethol Cymru Geraint Thomas.
Bydd beiciau newydd Frog Bikes ar gyfer y plant ieuengaf yn cael eu harddangos gan hyfforddwyr cymwysedig, a bydd Matti Hemmings wrth law hefyd i ddifyrru ac ysbrydoli'r hen a'r ifanc. Mae Matt yn Gymro sy'n enwog drwy'r byd am seiclo BMX tir gwastad ac yn dal record y byd Guinness.
Bydd Seiclo Cymru yn yr un ardal rhwng 12.30pm ac 1.30pm i arddangos eu gweithgareddau rasio clwb.
Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar gael yno i osod marciau diogelwch ar feiciau a hyrwyddo atal troseddau beics.
Bydd raciau beics yn cael eu gosod yn yr ardal ger the Wave i'r rhai hynny sydd am seiclo i ganol y ddinas.
Bydd nwyddau cysylltiedig â seiclo hefyd yn cael eu gwerthu a bysus timau Taith Prydain yn werth eu gweld gyferbyn â llwybr terfyn y ras ar Usk Way.
Bydd Archddraig felen Casnewydd hefyd yn ymddangos ar y podiwm lle bydd y gwobrau'n cael eu cyflwyno am ryw 4pm.
Bydd Maes parcio aml lawr Park Square ar agor o 7am tan 7pm. Bydd maes parcio Kingsway hefyd ar agor, er y bydd mynediad yno ac oddi yno ar hyd Cardiff Road yn hytrach nag Usk Way, a gall gyrwyr hefyd ddefnyddio maes parcio'r NCP oddi ar yr Old Green Crossing.
Bydd maes parcio Friars Walk ar gau cau ond bydd y siopau a'r tai bwyta ar agor.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amcan o amseroedd y ras a manylion cau'r ffyrdd, ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Leisure-Tourism/Activities/Tour-of-Britain.aspx