Canlyniadau TGAU da yn rhoi hwb i ysgolion a'r ddinas
Wedi ei bostio ar Tuesday 28th August 2018
Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd y Cyghorydd Debbie Wilcox yn hapus iawn â llwyddiant canlyniadau arholiadau TGAU Casnewydd a ryddhawyd heddiw.
Mae canlyniadau TGAU 2018 yn amlygu bod nifer o ysgolion yn y ddinas, gan gynnwys St Julians, Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Uwchradd Casnewydd, wedi dangos gwelliant sylweddol ar raddau A* i C TGAU y llynedd.
Mae'r canlyniadau yn dangos cryfder parhaus Casnewydd o ran Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae’n galonogol iawn gweld y canlyniadau cynnar hyn sy’n dangos bod ein hysgolion yn gwneud cynnydd da o ran helpu disgyblion i gyflawni’r cymwysterau iawn i sicrhau eu bod yn gallu parhau ag addysg ôl 16 neu fynd i mewn i fyd gwaith.
“Dylai pawb sy’n gysylltiedig â’n hysgolion, o staff, llywodraethwyr, disgyblion a’u rhieni a gofalwyr, fod yn falch iawn bod eu holl gefnogaeth a’u gwaith caled wedi bod o werth.”
Mae Cymru ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod o newid o ran y modd y defnyddir mesurau perfformio yn y system atebolrwydd.
Mae’r EAS eisoes yn gweithio ag ysgolion i olrhain perfformiad disgyblion unigol dros amser a fydd yn golygu bod arweinwyr ysgol a'n hawdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i weld lle mae ysgolion yn gwneud yn dda neu lle gallent fod angen cymorth ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Gail Giles, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, y dylai’r holl ysgolion fod yn falch iawn o’r canlyniadau gan atgoffa’r rheiny sy’n siomedig â’u graddau y gallant gael help a chymorth gyda'u dewisiadau ôl 16.
“Da iawn i’n holl ysgolion ar ganlyniadau gwych heddiw – mae’r gwaith caled a’r dyfalbarhad wedi bod o werth. Rwyf hefyd eisiau cysuro’r disgyblion hynny na chafodd y canlyniadau yr oeddynt wedi gobeithio eu cael, bod help a chymorth ar gael ac fe wnawn ein gorau i helpu unigolion i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu golau,” meddai’r Cynghorydd Giles.
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig help a chyngor i fyfyrwyr y gellir ei weld ar YouTube - https://www.youtube.com/watch?v=vW40kUWTTaI