Newyddion

Cymeradwyo cyllid ar gyfer mosäig cofio

Wedi ei bostio ar Monday 20th August 2018
Working on the mosaic

Gweithio ar y mosaig

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cais llwyddiannus am Gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i greu mosäig coffa i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.   

Bydd y mosäig yn canolbwyntio ar rôl newidiol menywod Casnewydd yn ystod y rhyfel, ac yn benodol ar saith o fenywod o Gasnewydd a fu farw wrth gyfrannu i’r ymdrech ryfel nad yw eu henwau wedi eu cofnodi na’u cofio. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Debbie Wilcox, fod derbyn y grant gan CDF yn newyddion da iawn i’r ddinas, gan alluogi’r project i fynd rhagddo.

Rydym wrth ein boddau fod ein cais am Gyllid Treftadaeth y Loteri yn llwyddiant ac rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr ac ymwelwyr yn dod i weld y mosaigau tra’n gwerthfawrogi’r hanes y tu cefn i’r delweddau.

 “Mae’n iawn ein bod ni’n cydnabod gwaith caled y gwragedd lleol a’r rhan a chwaraewyd ganddynt yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn enwedig y saith menyw a gollodd eu bywydau yn yr ymdrech ryfel.”

Y gyfrol ‘Every Woman Remembered – Daughters of Newport in the Great War’, gan yr awdures leol Sylvia Mason, a roddodd y wybodaeth am y menywod hyn.

Bydd Stephanie Roberts, artist lleol, yn gweithio gyda grwpiau ieuenctid Casnewydd i ddylunio a chreu mosäig i fynd fyny yn ardal gyhoeddus agored Rhodfa St Paul.

Dywedodd Stephanie: “Yn ogystal â chael fy nylanwadu gan y gyfrol a chyflwyno’i hun fel coffadwriaeth i’r menywod a fu farw, rwyf wedi dylunio’r darn i gyfleu rhinweddau meithringar merched a swyddogaethau amlwedd newydd merched sy’n dod yn amlwg yn y gymdeithas.

 “Rwy’n teimlo anrhydedd mawr wrth gael cofleidio pwysigrwydd arwyddocâd y project parthed rôl allweddol merched yn y gymdeithas, yn ystod y ganrif ddiwethaf ac i’r dyfodol.”

Mae gan y Menywod hyn gysylltiad unigryw â’r ardal ac Eglwys St Paul gan i nifer ohonynt gael eu bedyddio, priodi a gofalu yno am gleifion a phobl oedd wedi'u hanafu pan ddaeth yr Eglwys yn ysbyty dros dro i’r Groes Goch yn ystod y Rhyfel.

Bydd plac gyda thechnoleg ddigidol yn caniatáu preswylwyr ac ymwelwyr i ddarganfod mwy am dreftadaeth Casnewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r cyngor yn gobeithio y bydd y mosaigau yn helpu i leihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol, cynnig ardal o ddiddordeb i bobl leol ac ymwelwyr â Chasnewydd gan roi teimlad o falchder a pherchnogaeth i drigolion lleol.  

Dywedodd Andrew Jacobs, perchennog yr adeilad lle caiff y mosaigau eu gosod: “Mae hon yn fenter wych. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn yn cael llwyfan ar adeiladau cenedlaethol a ddaeth i’r amlwg yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.” 

Y cynllun yw datguddio’r mosäig mewn pryd ar gyfer dathliadau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Tachwedd 2018. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai: “Bydd y mosaigau yn fan o ddiddordeb ar Rodfa St Paul yn y gofod agored sydd newydd ei greu a gobeithiwn y bydd pobl yn gwerthfawrogi’r nodwedd newydd.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.