Cyrsiau newydd ar gyfer Medi 2018
Wedi ei bostio ar Thursday 16th August 2018
Mae prosbectws Dysgu Cymunedol i Oedolion 2018 nawr ar gael. Mae'r rhestr o gyrsiau'n cynnwys: TGAU Saesneg a Mathemateg; Llythrennedd, Rhifedd a Sgiliau Digidol; Iaith Arwyddo Prydain; Cyfrifiadura; Cymhorthydd Addysgu a Gwneud Dillad.
Cânt eu cynnig i'r rheiny 16 oed neu'n hŷn i'w helpu i ennill cymwysterau, cyfleoedd cyflogaeth, neu er mwyn cyrraedd amcanion personol.
Mae'r cynghorydd Gail Giles, aelod cabinet dros addysg a sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, wedi croesawu'r prosbectws newydd sy'n cynnig cyrsiau sy'n gallu helpu i ennill sgiliau a chymwysterau newydd.
"Mae ystod eang o bynciau, gan gynnwys cwrs newydd Iaith Arwyddo Prydain, sydd ar gael i bawb boed i wella cyfleoedd cyflogaeth neu o ran diddordeb neu ddatblygiad personol."
Caiff y cyrsiau eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
Canolfan Dysgu Cymunedol a Llyfrgell Sain Silian, Beaufort Road, NP19 7UB.
Ystafell Ddysgu, y Llyfrgell Ganolog, Sgwâr John Frost, NP20 1PA
Am ragor o wybodaeth a chyngor dewch draw i'n diwrnod Agored ar Ddydd Mawrth 4 Medi, neu gysylltu â ni ar:
Ffôn: 01633 656656
Gwefan: www.newport.gov.uk/becomingbilingual
E-bost: [email protected]
Facebook: Cyngor Dinas Casnewydd