Newyddion

Baner Gemau Trawsblaniadau Prydain wedi'i throsglwyddo'n swyddogol i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 6th August 2018
Transplant Games - archery

Mae Casnewydd wedi derbyn baner Gemau Trawsblaniadau Prydain yn swyddogol wrth i’r digwyddiad eleni yn Birmingham ddirwyn i ben.

Yn dilyn y digwyddiad pedwar diwrnod sydd wedi’i ddisgrifio fel yr un mwyaf hyd yn hyn, daeth cynrychiolwyr o Transplant Sport a Gemau Birmingham i drosglwyddo’r faner yn swyddogol i Gasnewydd mewn digwyddiad dathlu yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol y ddinas.

Roedd y Cynghorydd Malcolm Linton, Maer Casnewydd, ac Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chadeirydd pwyllgor trefnu lleol Casnewydd ar gyfer y gemau, yn canmol y rhai a gyfrannodd at y gemau yn Birmingham a gwnaethant ymrwymiad clir i sicrhau yr un lefel o lwyddiant ag y digwyddiad eleni, neu hyd yn oed ragori arno.

Roedd cyfle hefyd i’r gwesteion weld fideo gydag Arweinydd Cyngor Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, yn cyflwyno uchafbwyntiau’r ddinas a hanes Casnewydd o gynnal digwyddiadau o safon ryngwladol. Soniodd hi hefyd am anrhydedd cynnal digwyddiad mor arbennig â’r ysbrydoliaeth a grëir gan yr athletwyr, y teuluoedd a’r gwirfoddolwyr sy’n cyfrannu at y gemau.

Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu mwy na 850 o athletwyr sydd wedi cael trawsblaniad a mwy na 1,500 o gefnogwyr, gan gynnwys teuluoedd rhoddwyr organau, i’r ddinas yn ystod haf 2019.

Mae’r gemau wedi'u trefnu ar ran yr elusen Transplant Sport UK, a'r nod yw codi ymwybyddiaeth o roi organau a chynyddu nifer yr organau sy’n cael eu rhoi. Mae’r noddwr, sefydliad Westfield Health, yn gwmni yswiriant iechyd nid-er-elw. Mae wedi bod yn rhan o'r gemau ers dros ddegawd.

Caiff Gemau Trawsblaniadau Prydain Westfield Health eu cynnal dros bedwar diwrnod. Byddan nhw'n cynnwys mwy na 25 o ddigwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau i bobl o bobl gallu, o bysgota i drac a chae, gan gynnwys Ras y Rhoddwyr, digwyddiad cynhwysol a fydd yn agored i’r cyhoedd.  Bydd rhai digwyddiadau newydd hefyd yn cael eu cynnal yn arbennig gan Gasnewydd.

Er bod Cymru wedi cyflwyno ‘cydsyniad tybiedig’ ar gyfer rhoi organau, mae angen sylweddol o hyd i hyrwyddo buddion rhoi organau’n gadarnhaol, pa mor hanfodol yw hi i drafod dymuniadau ag anwyliaid, a chynyddu ymwybyddiaeth o’r angen am bobl sy’n derbyn trawsblaniadau arwain bywydau heini ac iach er mwyn cynyddu disgwyliad oes trawsblaniadau.

Nid yw’r gemau erioed wedi dod i Gasnewydd o’r blaen, a’r gobaith yw y byddant yn annog nifer mwy o bobl sydd wedi cael trawsblaniadau yng Nghymru i ymuno â theulu’r gemau a phrofi elfen integreiddio cymdeithasol y gemau.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’n anrhydedd cael ein dewis i gynnal y digwyddiad mawr ei bri hwn. Mae gan Gasnewydd hanes rhagorol o gynnal digwyddiadau chwaraeon gan gynnwys Cwpan Ryder, y Felothon, pencampwriaethau beicio trac a gwersyllfaoedd Olympaidd a Pharalympaidd – ond bydd y digwyddiad hwn yn rhywbeth arbennig i'r ddinas. 

“Mae’r athletwyr hyn yn ysbrydoli a bydd y Gemau'n lledaenu neges sydd mor bwysig. Mae Cymru wedi arwain o blith gwledydd y DU o ran yr arfer o roi organau, ond mae cymaint rhagor  i wneud i godi ymwybyddiaeth o'i bwysigrwydd ac i annog pobl i ymrwymo ledled y wlad.

“Rydyn ni'n gobeithio bod ein dinas yn gallu cynnal Gemau penigamp ac yn gwneud cyfiawnder â'r achos teilwng hwn."

Bydd Cyngor Casnewydd, Casnewydd Fyw, Llywodraeth Cymru a threfnwyr y gemau'n gweithio mewn partneriaeth i wneud y digwyddiad yn well nag erioed.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.britishtransplantgames.co.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.