Pobl ifanc yn helpu i dorri'r cylch ymddygiad gwrthgymdeithasol
Wedi ei bostio ar Friday 20th April 2018
Dangoswyd ffilm fer - yn dangos pobl ifanc leol yn delio ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol - am y tro cyntaf i westeion gwadd yn Cineworld, Parc Manwerthu Casnewydd.
Cafodd y prosiect, a ddatblygwyd ac a ffilmiwyd dros sawl mis, ei arwain gan Wasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) Cyngor Dinas Casnewydd a'i ariannu gan grant gan Casnewydd yn Un, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan Pili Pala Films o Gasnewydd, ac mae'n defnyddio cast o actorion amatur lleol i ddangos effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar unigolion a chymunedau.
Mae un person ifanc yn adrodd y stori - person sydd wedi cwblhau Gorchymyn Atgyfeirio'n llwyddiannus gyda'r GTI.
Bydd y ffilm yn cael ei chyflwyno mewn gwasanaethau ysgolion cynradd gan swyddogion dargyfeirio'r GTI ynghyd â swyddogion cyswllt ysgolion yr heddlu a'r gwasanaeth tân.
Bydd disgyblion yn cael eu hannog hefyd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth poster ar ôl gwylio'r ffilm.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn broblem fawr ym mywydau pobl a'u cymunedau. Da iawn i bawb a fu'n rhan o'r ffilm wych hon, yn arbennig y bobl ifanc.
"Gall tynnu sylw plant at effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar oedran ifanc eu stopio rhag cymryd rhan mewn ymddygiad o'r fath yn y dyfodol - ac rydym yn gwybod y gall pobl ifanc fod yn genhadon gwych ar gyfer trosglwyddo'r negeseuon cywir i'w cyfoedion ac eraill."