Newyddion

Stondinau newydd i farchnad boblogaidd St Paul's Walk

Wedi ei bostio ar Wednesday 18th April 2018

Bydd danteithion blasus a chrefftau ar gael mewn man cyhoeddus newydd ei greu yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn 28 Ebrill.

Bydd Cotyledon, sy'n trefnu marchnadoedd awyr agored rheolaidd yn Friars Walk a Belle Vue Park, yn dod â'r digwyddiad i St Paul's Walk yn Commercial Street rhwng 10am a 4pm.

Crëwyd St Paul's Walk yn rhan o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid lwyddiannus y ddinas.

Yn ogystal â chysylltu Commercial Street a Ffordd y Brenin, mae'n ffordd gyhoeddus wedi'i thirlunio lle gellir cynnal digwyddiadau.

Mae gyferbyn â'r hen Eglwys St Paul ac yn agos i'r Adeiladau Cenedlaethol, ac mae wedi cael ei weddnewid yn rhan o un o brojectau LlLlLlA.

Dywedodd Jan Walsh, rheolwr-gyfarwyddwr Cotelydon: "Gobeithio y bydd ein rhwydwaith arbennig o arbenigwyr bwyd, crefftwyr a chrewyr yn denu preswylwyr i'r farchnad a'r digwyddiadau bwyd stryd.  Mae'n lle cyhoeddus newydd, diogel mor hyfryd; mae'n berffaith ar gyfer ystod lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau."

Mae Brian Morrish, sydd â stondin ym marchnad hanesyddol Casnewydd, ymhlith y rhai a fydd yn gwerthu caws a mathau eraill o gynnyrch llaeth.

Gall unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn cael stondin gysylltu â Jan Walsh o Cotyledon ar 01633 441442 neu e-bostiwch [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.