Sut y gallai Pont Gludo Casnewydd edrych yn y dyfodol
Wedi ei bostio ar Monday 30th April 2018
Mae cynlluniau uchelgeisiol i ailwampio Pont Gludo eiconig Casnewydd yn ddibynnol ar gais llwyddiannus am Arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn aros am y penderfyniad ar gais gwerth £10 miliwn i CDL fel y gall atgyweirio’r bont, adfer y gondola a gwneud gwelliannau i’r safle.
Mae argraff arlunydd o sut y gallai canolfan ymwelwyr newydd edrych wedi’i rhyddhau gan y cyngor.
Mae’r Bont, y mae ei strwythur metel enfawr ynghyd â'r gondola a ddefnyddir i gario cerbydau ar draws Afon Wysg i’w gweld o sawl man yn y ddinas, bellach ar agor ar gyfer y tymor ymwelwyr.
Mae cais y cyngor am gyllid yn cystadlu yn erbyn projectau o bob cwr o'r DU, a does dim sicrwydd y bydd y cais yn llwyddiannus.
Mae’n rhaid i’r cais fynd trwy 2 gam; y cynnig cychwynnol hwn yw’r cam cyntaf ac mae'n rhaid i'r cyngor ddod o hyd i £1.25m posibl yn ei raglen gyfalaf ar gyfer y gofyniad o ran cyllid cyfatebol pe bai’r cynnig yn llwyddiannus ac yn cyrraedd cam dau.
Mae Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Debbie Harvey, yn gobeithio y bydd newyddion da gan CDL yn yr wythnosau nesaf.
“Mae ein Pont Gludo eiconig yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd ac rydym yn hynod ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr a Chyfeillion Pont Gludo Casnewydd am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.
“Gwyddom fod llawer o gefnogaeth leol i’r cynnig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri a gwyddom fod busnesau a thrigolion lleol yn ein cefnogi.
“Mae argraff yr arlunydd, sy’n nodi’r ganolfan ymwelwyr newydd, yn rhoi cipolwg o newidiadau’r dyfodol a allai gael eu gwneud i wella profiad yr ymwelwyr.
“Gan groesi bysedd y bydd gennym newyddion da yn fuan,” meddai’r Cynghorydd Harvey.