Newyddion

Helpwch Gasnewydd i ddod yn ddinas gyfeillgar i wenyn

Wedi ei bostio ar Tuesday 24th April 2018
Bee friendly Newport pic 1

Gallwch chi roi help llaw i natur trwy gefnogi cynllun i helpu i wenyn ffynnu yn ein dinas.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymuno â phartneriaid megis Cyfeillion y Ddaear Casnewydd, Tai Siarter, Cartrefi Dinas Casnewydd, Canolfan Gamlas Fourteen Locks, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, grŵp cymunedol The Woodlanders ac Incredible Edibles Maindy yn ogystal â phreswylwyr lleol i ffurfio grŵp Gwenyn Casnewydd.

Fel grŵp, maen nhw’n gweithio ar wneud newidiadau sydd yn dda i beillwyr trwy Gasnewydd.

Dros y misoedd nesaf, bydd y cyngor yn newid peth rheoli cynefin trwy ganiatáu i'r gwair dyfu’n hirach mewn rhannau yn y ddinas, megis ar ymylon caeau chwarae, ar ymylon ffordd, yn ein parciau neu ar hyd y gamlas.

Mae gloÿnnod byw Gweirlöyn y Perthi, Gweirlöyn Brych a Gweirlöyn y Ddôl i gyd yn bwydo ar flodau’r gwair. Ar wrth gwrs, mae amrywiaeth o wenyn a phryfed hofran a fydd yn mynd â neithdar o blanhigion eraill a fydd yn blodeuo os cant y cyfle.

Mae’r dolydd gwylltion yng Nghwarchodfa Natur Leol Allt yr Yn ac ar safleoedd eraill yn parhau i fod yn hafan ar gyfer nifer o beilïaid ac mae ffiniau sy'n annog peilliaid ym Mharc Belle Vue ac mewn nifero diroedd ysgolion sy'n awyddus i helpu'r gwenyn.

Mae grŵp cymunedol The Woodlanders yn gofalu am Barc Woodland ac maen nhw wedi plannu perllan a dôl flodau gwyllt cynhenid sy'n cynhyrchu adnoddau bwyd gwych i'r peilliaid, ac mae Maendy Unlimited yn paratoi ar gyfer gosod thema tyfu ar eu gŵyl flynyddol.

Menter gan Lywodraeth Cymru yw’r Prosiect Gwenyn, sy’n annog cymaint o gymunedau a sefydliadau i ymuno gan ddilyn pedair prif thema.

Mae hyn yn cynnwys darparu bwyd ar gyfer y peilliaid, a lle iddynt fyw, osgoi defnyddio pla-laddwyr a chwyn-laddwyr sy’n niweidio'r peilliaid ac wrth gwrs, rhannu, mwynhau, cynnwys y gymuned a dweud wrth bobl beth rydych yn ei wneud a pham.

Mae Casnewydd Groesawgar i Wenyn hefyd yn cynllunio wythnos o ddigwyddiadau ym mis Mehefin i amlygu pwysigrwydd y peilliaid o ran cynhyrchu bwyd, a byddant yn cysylltu â chaffis lleol i ymuno â nhw.

Gall unigolion hefyd wneud eu rhan trwy adael darn o ardd a gadael i'r gwair a chwyn dyfu a pheidio â thorri'r gwair tan yr hydref.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cynllun neu am sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch â Swyddog Bioamrywiaeth ac Addysg am ragor o fanylion.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.