Newyddion

Gwyliwch a chefnogwch ras feicio broffesiynol Tour of Britain yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 7th September 2017
Ras Feicio Broffesiynol Tour of Britain – Dydd Sul 10 Medi 2017

Mae ras feicio broffesiynol Tour of Britain yn cynnwys 120 o feicwyr proffesiynol gorau’r byd. Byddant yn teithio drwy Gasnewydd ddydd Sul 10 Medi 2017 gyda beiciau modur cynorthwyol a cherbydau cymorth.

Dylai’r beicwyr gymryd tua 30 munud i basio drwy Gasnewydd a bydd ffyrdd yn cael eu cau am yn ail i darfu cyn lleied â phosibl ar draffig.

Y llwybr

•             Bydd y ras yn cyrraedd Caerllion ar hyd Usk Road (tua 2pm)

•             Mill Street – Castle Street - New Road – Belmont Hill

•             Catsash Road - Christchurch Road – Beechwood Road – Chepstow Road

•             Wharf  Road – George Street Bridge – Lower Dock Street – Usk Way

•             SDR – Lighthouse Road B4239 i Gaerdydd (tua 2.25pm)

Y ras hon yw digwyddiad beicio proffesiynol blynyddol mwyaf y DU a bydd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu.

Mae croeso i chi ddod i wylio a chefnogi’r beicwyr wrth iddynt basio o unrhyw fan diogel ar hyd y llwybr.  

Ewch i wefan Tour of Britain am ragor o wybodaeth. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.