Newyddion

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau meithrin 2018 yn nesáu!

Wedi ei bostio ar Tuesday 12th September 2017

Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin 2018 yng nghasnewydd yn cau ar 18 Medi.

Mae’r broses a’r amserlen ymgeisio wedi’u newid yn ddiweddar gyda’r nod o wneud y broses yn haws i rieni.

Mae plant yn gymwys am le meithrin yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed ac yng Nghasnewydd gall hyn fod mewn dosbarth / ysgol feithrin a gynhelir neu mewn lleoliad nas cynhelir (grŵp chwarae neu feithrinfa ddydd breifat).

Am le meithrin ym Medi 2018 (meithrinfeydd a gynhelir yn unig), gellir gwneud ceisiadau rhwng 3 Gorffennaf a 18 Medi 2017.

Fodd bynnag, yn wahanol i'r blynyddoedd diwethaf, nid oes angen i rieni gyflwyno cais ar wahân ar gyfer lle i blant sy’n codi’n 3 oed. Gellir cynnig lleoedd i blant sy’n codi’n 3 oed a anwyd rhwng 1 Medi a 31 Mawrth, gyda dyddiad dechrau mewn meithrinfa o Ionawr neu Ebrill 2018.

Ar ôl i gais meithrin gael ei wneud, os oes lle ar gael i blant sy’n codi’n 3 oed, caiff rhieni eu hysbysu’n awtomatig a chynigir y lle iddynt.

Nid yw plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys am le i blant sy’n codi’n 3 oed.

Dyddiadau allweddol

3 Gorffennaf – 18 Medi 2017

Cyfnod ymgeisio am leoedd meithrin 2018

 

30 Tachwedd 2017

Penderfyniadau'n cael eu cyhoeddi ar gyfer lleoedd Medi 2018

Ionawr 2018 Cynigir lleoedd Plant sy’n Codi’n 3 Oed (os oes rhai ar gael)

 

2 Mawrth 2018

Ebrill 2018 Cynigir lleoedd Plant sy’n Codi’n 3 Oed (os oes rhai ar gael)

 

Mae’r cyngor yn gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion meithrin cymunedol ond am le meithrin mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu leoliad nas cynhelir, dylid gwneud ymholiadau yn uniongyrchol i'r ysgol neu'r darparwr.

Mae lleoedd Cymraeg a Saesneg ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais, ewch i www.newport.gov.uk/schooladmissions

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.