Newyddion

Cofrestrwch i ddysgu sgiliau newydd o fis Medi ymlaen

Wedi ei bostio ar Monday 4th September 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig ystod o gyrsiau drwy ei raglen Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG) ac Academi Dysgu yn y Gwaith (WBLA).

Gall preswylwyr ddysgu sgiliau newydd, gwella potensial eu gyrfa neu gymryd rhan mewn gweithgaredd newydd.

Mae prosbectws cyrsiau newydd DOG ar gyfer 2017 ar gael bellach, ac yn cynnwys TGAU ac addysg gyffredinol; TGCh a llythrennedd ddigidol; addurno cacennau; creu ffrogiau a sesiynau i oedolion gydag anawsterau dysgu.

Mae dosbarthiadau sgiliau hanfodol yn helpu pobl i wella eu Saesneg a mathemateg.

Efallai y bydd rhai pobl yn gymwys ar gyfer consesiwn ar ffioedd os ydynt yn cydymffurfio ag amodau penodol.

I ddarganfod mwy am gyrsiau 2017, ewch i www.newport.gov.uk/communitylearning; e-bostiwch: [email protected] neu galwch heibio i'r Llyfrgell Ganolog ar Sgwâr John Frost.

Mae'r WBLA hefyd yn rhoi cyfle i bobl ennill cymwysterau galwedigaethol mewn sawl maes gan gynnwys gofal plant; datblygu chwarae; datblygu chwaraeon ac iechyd a gofal cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â [email protected].

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae'r cyrsiau y mae DOG a WBLA yn eu cynnig yn berffaith i bobl sydd am wella eu sgiliau, un ai i'w helpu i gael gwaith neu i wella eu dewisiadau gyrfa.

  "Rydym hefyd yn gallu cynnig nifer cyfyngedig o gyrsiau i breswylwyr sydd am gymryd rhan mewn gweithgaredd newydd neu wella ar eu talentau.

  "Byddwn yn annog pobl i edrych ar y prosbectws newydd i weld a oes cyfle y bydden nhw'n gallu bachu arno."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.