Newyddion

Saith person wedi'u gweld ar gamera'n dympio sbwriel yn anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Wednesday 6th September 2017

Gallwch gymryd mwy o sbwriel i'v Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Yn rhan o ymgyrch ddirgel i ddal pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon mae saith troseddwr wedi’u dal a’u dirwyo.

Gosodwyd camerâu cudd mewn man lle ceir problemau’n aml yn Tregwillym Road yn Nhŷ-du yn dilyn tipio anghyfreithlon cyson yn yr ardal.

Cafodd yr holl bobl a gafodd eu dal ar gamera hysbysiad cosb benodedig gwerth £75 a ddaeth i gyfanswm o £525.

Yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch hon mae’r Cyngor bellach yn bwriadu parhau i ddefnyddio camerâu cudd mewn ystod o leoliadau.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun, y Cynghorydd Roger Jeavons, fod tipio anghyfreithlon yn niwsans i gymdeithas a bod y Cyngor yn benderfynol o ddefnyddio pob dull sydd ar gael i ddal troseddwyr.

“Mae tipio anghyfreithlon yn broblem ym mhob rhan o Gasnewydd – a gweddill y DU – ac fel Cyngor byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i atal troseddwyr.

“Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ac rydym bellach yn bwriadu cynnal mwy o ymgyrchoedd trwy ddefnyddio camerâu TCC i ddod o hyd i droseddwyr a’u dirwyo.

 “Gwnaethom ddal saith person yn dilyn yr ymgyrch lwyddiannus hon yn Nhŷ-du, a diolch i ddiwydrwydd ein tîm gorfodi gwastraff a ddaeth o hyd i’r troseddwyr.

“Fodd bynnag, mae glanhau sbwriel sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon yn costio’n fawr a bydd yn creu hyd yn oed mwy o gyfyngiadau ar gyllidebau llym trwy ddefnyddio adnoddau gwerthfawr a allai gael eu defnyddio i gynnig gwasanaethau eraill i’n trigolion.

“Os bydd unrhyw un yn gweld rhywun yn tipio’n anghyfreithlon byddwn yn ei annog i ffonio ein llinell gymorth gyfrinachol a gadael manylion am unrhyw ddigwyddiad. Bydd ein tîm wedyn yn ymchwilio,” meddai’r Cyng Jeavons.

Rhif llinell gymorth Balchder yng Nghasnewydd yw 07973698582.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.