Newyddion

Gŵyl fwyd Casnewydd – mis i fynd!

Wedi ei bostio ar Thursday 7th September 2017
Newport Food Festival

Mae gŵyl fwyd boblogaidd Casnewydd yn dychwelyd y mis nesaf gyda rhaglen anhygoel o gyfranwyr ar y gweill, mae'n argoeli fel diwrnod allan blasus tu hwnt!

Bydd Gŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd 2017 yn gartref i oddeutu 70 o stondinau, sioeau gan ben-gogyddion yn ogystal â dychweliad y gystadleuaeth Teenchef boblogaidd.

Bydd y prif weithgareddau yn digwydd Ddydd Sadwrn 7 Hydref rhwng 9am a 5pm a byddant yn canolbwyntio’n bennaf ar y Stryd Fawr, marchnad Casnewydd a Sgwâr Westgate.

Bydd amrywiaeth o arddangoswyr yn barod i lenwi eich oergelloedd â danteithion gan gynnwys cigoedd, cawsiau, perlysiau a jamiau, mathau o fara a chacennau a chrempogau i basteiod, olewau a sawsiau.

Wedi i chi fagu blas yn crwydro drwy’r cynigion a’r gweithgareddau, bydd digon o ddewis i ail-lenwi'r tanc – Asiaidd, Groegaidd, Eidalaidd neu Gymreig, porc wedi ei dynnu, byrgyrs, nwdls neu churros, ac wrth gwrs hufen iâ os daw’r haul allan (gobeithio!)

Ac rydym yn addo eich adfywio gyda chwrw Tiny Rebel, gwin, seidr, gwirodydd neu rywbeth meddal.

Bydd adloniant a gweithgareddau i’r teulu cyfan o ddiddanwyr stryd i fodelu balwnau.  

Os ydych yn hoff o wres y gegin gallwch ddysgu triciau’r byd proffesiynol gydag arddangosiadau am ddim gydol y dydd. Mae rhai o gogyddion gorau’r ardal yn ymuno â ni gan gynnwys Hywel Jones o Lucknam Park a noddwr yr ŵyl James Sommerin, Dion Tidmarsh o’r Golden Lion, Anil Karhadkar o Curry on the Curve, Gavin McDonagh o’r Celtic Manor a Ricky Ashh o Tiny Rebel. Mae’r rhaglen lawn ar gael nawr ar wefan yr ŵyl.

Yn dilyn llwyddiant Brwydr y Byrger y llynedd, bydd cystadleuaeth ben-ben arall – eleni pastai fydd y thema!

Daeth dros 14,000 atom yn 2016, er gwaethaf ambell gawod, gan greu bwrlwm yn yr holl leoliadau.  

Mae’r gefnogaeth gan fusnesau lleol unwaith eto wedi bod yn wych, gan ein galluogi ni i roi cynnig cystal ger bron. Y noddwyr sy’n cefnogi’r digwyddiad eleni yw Tiny Rebel, Casnewydd Nawr, Celtic Manor Resort a’r Golden Lion yn Magor.

Mae Ardal Gwella Busnes Casnewydd Nawr yn noddi ardal yr oriel ym Marchnad Casnewydd – Parth Casnewydd Nawr – a fydd yn cynnal rhai o’r prif ddigwyddiadau gan gynnwys arddangosiadau a chystadleuaeth Teenchef lle gallwch wylio’r genhedlaeth nesaf o gogyddion yn ymgiprys.

Mae’r Swper yr Ŵyl poblogaidd yn cael ei gynnal Ddydd Llun 2 a Dydd Mawrth 3 Hydref ar safle newydd Tiny Rebel yn Tŷ-du lle gweinir pryd 5 cwrs arbennig.

Mae’n addo bod yn brofiad cofiadwy gyda bwyd gwych law yn llaw â chwrw arobryn. Rhaid cael tocynnau ymlaen llaw drwy Tiny Rebel.

I gael y newyddion diweddaraf am yr ŵyl a mwy o wybodaeth am weithgareddau, digwyddiadau ac arddangoswyr, ewch i www.newportfoodfestival.co.uk, hoffwch ni ar Facebook www.facebook.com/newportfoodfestival, neu dilynwch ni ar Twitter @NewportFoodFest.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.