Newyddion

Ysgol newydd yn croesawu ei disgyblion cyntaf

Wedi ei bostio ar Friday 8th September 2017

Agorwyd drysau ysgol gynradd ddiweddaraf Casnewydd, Ysgol Gynradd Jubilee Park yn y Tŷ Du, yr wythnos hon.

Bydd yn darparu addysg ar gyfer plant ar ystâd Jubilee Park, sy’n cael ei hadeiladu ar hen safle diwydiannol.

Bydd yr ysgol gynradd yn un sy’n “tyfu” dros y tair blynedd nesaf, felly bydd nifer ei disgyblion yn cynyddu wrth i’r ystâd barhau i ddatblygu.

Yn ei blwyddyn gyntaf, mae gan Jubilee Park bum dosbarth ac mae disgwyl i'r nifer hwn gynyddu i saith y flwyddyn nesaf, ac i nifer y disgyblion gynyddu i gyfanswm o 373 yn y pen draw.

Dywedodd y pennaeth, Catherine Kucia; "Mae blwyddyn ysgol newydd bob amser yn gyffrous gan fod plant ar ddechrau eu haddysg, ond mae'n fwy arbennig fyth bod y disgyblion cyntaf mewn adeilad ysgol newydd.

“Mae'n fraint fawr i ni allu agor drysau ein hamgylchedd dysgu newydd a byddwn yn sicrhau ei bod yn ysgol sy'n croesawu ac sy'n gofalu, lle y caiff disgyblion eu meithrin a’u hysbrydoli i wireddu eu potensial." 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Rydym ni, y Cyngor, yn ymrwymo i ddarparu addysg o’r radd flaenaf i bob plentyn, yn yr amgylchedd gorau posibl.

“Mae Ysgol Gynradd Jubilee Park yn ysgol newydd wych ac mae hon yn foment falch i bawb - staff, llywodraethwyr, disgyblion, rhieni, gofalwyr, ac wrth gwrs, y Cyngor. Hoffwn ddiolch i bob un a wnaeth y diwrnod hwn yn bosibl, gan gynnwys y datblygwyr, ac rwy'n siŵr y bydd hon yn ysgol hapus a llwyddiannus iawn."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.