Newyddion

Ysgol nodedig newydd yn agor yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 11th September 2017

Agorodd Ysgol Bryn Derw, yr ysgol gyntaf yng Ngwent  sy'n benodol ar gyfer disgyblion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD), yr wythnos diwethaf.

Bydd yr adnodd arbenigol hwn, a leolir ar safle flaenorol Ysgol Fabanod Gaer, yn rhoi darpariaeth arbenigol ac addysgu wedi’i strwythuro i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed.

Y nod fydd rhoi addysg a chymorth o’r radd flaenaf i’w holl ddisgyblion waeth beth yw lefel yr addysg y maen nhw ei hangen.

Bydd disgyblion  yn cael cyfleoedd hefyd i weithio a dysgu yn y gymuned er mwyn paratoi ar gyfer eu rôl yn y dyfodol fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas.

Mae gan bob un o’r athrawon gymwysterau anghenion arbennig ychwanegol a bydd ymagwedd therapiwtig gref at ddysgu’r disgyblion. Mae ystafelloedd arbennig gydag offer synhwyraidd yn ogystal â chwarae meddal.

Pan fydd yn llawn, bydd yr ysgol yn cynnwys 48 o ddisgyblion ac mae'n dechrau gyda 24 o athrawon a chynorthwywyr addysgu.

Dywedodd y pennaeth Richard Drew: “Dylai Casnewydd fod yn falch mai ef yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Ngwent i fod â chyfleuster o'r fath. Cydnabu'r cyngor ei bod yn bwysig i ddisgyblion sydd ag anghenion cymhleth gael lleoliad priodol a dyma beth fydd yr ysgol yn ei roi iddynt.

 “Cwrddais â’r holl rieni, gofalwyr a'r disgyblion cyn dechrau’r tymor ac roeddent wrth eu bodd bod y cyfleuster hwn yn agor yng Nghasnewydd.

 “Yn aml, y ffocws gyda’r rhai sydd ag anghenion cymhleth yw’r hyn na allan nhw ei wneud ond rwy’n edrych ymlaen at ddysgu'r hyn maen nhw yn gallu ei wneud, a'r talentau sydd ganddynt, a sut gallwn ni eu defnyddio i'w helpu i sicrhau dyfodol llwyddiannus.”

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rwyf wrth fy modd bod y cyngor wedi llwyddo i ddarparu ysgol arbenigol ar gyfer plant lleol fel nad oes rhaid iddynt deithio y tu allan i’r ddinas i gael eu haddysg.

“Mae hwn yn ddatblygiad gwych i’r ddinas a fydd yn darparu amgylchedd hapus, diogel a ffyniannus ar gyfer ei holl ddisgyblion.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig darparu ysgol arbenigol er mwyn i blant gael eu haddysgu ger eu cartrefi a lleihau nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir.

“Mae gan yr ysgol gyfleusterau ardderchog a staff o’r radd flaenaf a fydd â'r nod o ddarparu'r safonau uchaf bosibl o addysg a chefnogaeth i'r holl ddisgyblion. Rydym eisiau i holl blant y ddinas, beth bynnag yw lefel eu hanghenion addysgol, gael eu cynorthwyo i gyrraedd eu llawn botensial.”

Ariannwyd creu Ysgol Bryn Derw gan Gyngor Dinas Casnewydd a rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.