Yr Arcêd Marchnad a'r Heol Fawr hanesyddol
Wedi ei bostio ar Friday 15th September 2017
Yr Arcêd Marchnad
Mae pobl yn cael eu gwahodd i weld astudiaeth o gymeriad ardal yr Heol Fawr yng nghanol y ddinas a baratowyd fel rhan o broject Treflun Cronfa Dreftadaeth Y Loteri.
Cafodd £177,300 ei ddyfarnu tuag at ddatblygu project a allai sicrhau mwy na £1 miliwn ar gyfer project adfywio cynhwysfawr Arcêd y Farchnad.
Mae nifer o linynnau o waith yn cael eu gwneud fel rhan o’r gwaith o baratoi'r cais terfynol gan gynnwys yr astudiaeth nodweddu trefol sy’n edrych ar hanes sut mae lle wedi llunio strydlun a phensaernïaeth heddiw.
Dywed stori ryfeddol sut datblygodd Casnewydd ac ardal yr Heol Fawr, sydd yn ardal gadwraeth canol y ddinas, dros y canrifoedd o’r canoloesoedd hyd y dwthwn hwn.
Caiff arddangosfa ar yr astudiaeth ei chynnal yn y Mad Hatters Tea Room, Arcêd y Farchnad, Heol Fawr ar 19 Medi 2017 rhwng 1pm a 6pm.
Mae copi o’r astudiaeth yn www.newport.gov.uk