Newyddion

Y ddinas yn croesawu athletwyr sy'n ysbrydoli

Wedi ei bostio ar Monday 18th September 2017
Transplant Games - archery

Mae wedi’i gyhoeddi y bydd Casnewydd yn ddinas groeso i Gemau Trawsblannu Prydeinig Westfield Health 2019.

Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu mwy na 850 o athletwyr sydd wedi cael trawsblaniad a mwy na 1,500 o gefnogwyr, gan gynnwys teuluoedd rhoddwyr organau, i’r ddinas yn ystod haf 2019.

Mae’r gemau wedi'u trefnu ar ran yr elusen Transplant Sport UK, a'r nod yw codi ymwybyddiaeth a'r nifer o organau sy'n cael eu rhoi. Mae’r noddwr, sefydliad Westfield Health, yn gwmni yswiriant iechyd nid-er-elw. Mae wedi bod yn rhan o'r Gemau ers dros ddegawd.

Bydd Cyngor Casnewydd, Casnewydd Fyw, Llywodraeth Cymru a threfnwyr y Gemau'n gweithio mewn partneriaeth i wneud y digwyddiad yn well nag erioed.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’n anrhydedd cael ein dewis i gynnal y digwyddiad mawr ei bri hwn. Mae gan Gasnewydd hanes rhagorol o gynnal digwyddiadau chwaraeon gan gynnwys Cwpan Ryder, y Felothon, pencampwriaethau beicio trac a gwersyllfaoedd Olympaidd a Pharalympaidd – ond bydd y digwyddiad hwn yn rhywbeth arbennig i'r ddinas. 

“Mae’r athletwyr hyn yn ysbrydoli a bydd y Gemau'n lledaenu neges sydd mor bwysig. Mae Cymru wedi arwain o blith gwledydd y DU o ran yr arfer o roi organau, ond mae cymaint rhagor  i wneud i godi ymwybyddiaeth o'i bwysigrwydd ac i annog pobl i ymrwymo ledled y wlad.

“Rydyn ni'n gobeithio bod ein dinas yn gallu cynnal Gemau penigamp ac yn gwneud cyfiawnder â'r achos teilwng hwn."

Caiff Gemau Trawsblannu Prydeinig Westfield Health eu cynnal dros bedwar diwrnod. Byddan nhw'n cynnwys mwy na 25 o ddigwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau i bobl o bobl gallu, o bysgota i drac a chae, gan gynnwys Ras y Rhoddwyr, digwyddiad cynhwysol a fydd yn agored i’r cyhoedd.

Bydd y Gemau’n ategu ymgyrchoedd sy’n digwydd yn lleol i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o wybodaeth am roi organau ac o'r pwysigrwydd o rannu'ch penderfyniad â'ch anwyliaid.

Dywedodd Dr Paul Harden, Cadeirydd Tansplant Sport Uk: “Mae’n bleser gennym ni gynnal y Gemau Trawsblannu yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld twf y Gemau wrth iddyn nhw fynd o nerth i nerth ac rydyn ni’n siŵr y bydd Casnewydd yn gallu efelychu'r llwyddiannau yng Ngogledd Lanarkshire eleni, ac yn Birmingham yn 2018.

 “Mae 2019 hefyd yn flwyddyn bwysig i ni gan fod Gemau Trawsblannu’r Byd yn dod i’r DU, digwyddiad a fydd yn taflu goleuni ar y neges bwysig o drafod eich dymuniadau o ran rhoi organau gyda'r teulu ar lefel ryngwladol."

Ychwanegodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw: “Mae’n bleser i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru a sefydliad Transplant Sport UK i gynnal y bobl anhygoel yma, sydd ar daith anhygoel, yn ystod pedwar diwrnod o gystadlaethau chwaraeon a chyflawniad personol.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddefnyddio ein cyfleusterau gwych i ysbrydoli'r athletwyr i wireddu eu potensial ac rwy'n siŵr y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli pobl leol i fod yn rhan o'r hwyl ac i weld beth y gallwch chi ei gyflawni drwy gredu ynoch eich hun."

Dywedodd yr Ysgrifenydd Iechyd, Vaughan Gething:  “Llongyfarchiadau i Gasnewydd ar ddenu Gemau Trawsblannu Prydeinig  Westfield Health gyda chais cryf dros ben. 

“Mae’r Gemau’n ddathliad. Mae modd i’r athletwyr gystadlu oherwydd caredigrwydd rhoddwyr organau di-ri a’u teuluoedd sydd wedi rhoi anadl einioes.    

“Bydd hefyd yn helpu i annog pobl i siarad am eu penderfyniad o ran rhoi organau. Mae sgwrs gyflym yn gallu bod o fudd i bobl Cymru a'r DU. Os yw eich teulu’n gwybod am eich penderfyniad ac yn ei barchu, gallai hynny leihau nifer y bobl sy'n marw wrth ddisgwyl organ addas. Gall drawsnewid bywydau.

“Rydyn ni’n dymuno Gemau llwyddiannus i bawb a fydd yn rhan ohonyn nhw."

Y Gemau Trawsblannu Prydeinig yw prif ddigwyddiad sefydliad Transplant Sport. Cafodd y Gemau eu datblygu gan y llawfeddyg trawsblannu, Maurice Slapack, yn 1978. Y nod gwreiddiol oedd iddyn nhw fod yn ddigwyddiad rhyngwladol i groesawu timau o Ffrainc, Gwlad Groeg a hyd yn oed UDA.

Heddiw, mae'r Gemau Trawsblannu Prydeinig yn croesawu mwy na 50 o dimau o ysbytai ledled y DU (ac mae ymwelwyr yn parhau i ddod o dramor) sy’n dod ynghyd i rannu eu profiadau personol, i gystadlu, a i ddiolch i'r teuluoedd sydd wedi rhoi organau, sy'n dod yn rhan fwyfwy o'r Gemau.

Mae’r Gemau Prydeinig hefyd yn llwybr i bobl sydd am gael eu dewis i gystadlu yng Ngemau Trawsblannu'r Byd, sy'n digwydd ddwywaith y flwyddyn. Mae Tîm GB gyda'r mwyaf o faint a'r mwyaf llwyddiannus.

Bydd rhagor o wybodaeth am Gemau 2019 ar gael cyn bo hir. I weld rhagor o wybodaeth am y Gemau Trawsblannu diwethaf, ewch i www.britishtransplantgames.co.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.