Newyddion

Project Adloniant Parc Beechwood

Wedi ei bostio ar Friday 29th September 2017

Parc Beechwood

Disgwylir i’r gwaith i greu ardal adloniant ym Mharc Beechwood ddechrau ddydd Llun 2 Hydref.

Bydd y project wedi’i leoli ar yr ardal oedd arfer lletya'r pwll padlo ar dir ger Tŷ Beechwood.

Gall y project nawr fynd rhagddo ar ôl i Friends of Newport’s Ornamental Parks fod yn llwyddiannus wrth ymgeisio am £100,000 o Gronfa Cymunedau Tirlenwi i dalu am y gwaith.

Bydd staff o Landcraft of Cardiff ar y safle i gyflawni’r gwaith a fydd yn para wyth wythnos.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn gwario tua £30,000 am waith datblygu yn y parc gan gynnwys planhigion ac arwyddion newydd.

Mae’r cyngor yn gofyn i breswylwyr fod yn amyneddgar tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo oherwydd bydd peirianwaith ar y safle a gallai’r gwaith darfu ychydig ar ddefnyddwyr y parc.

Ar ôl iddo gael ei gwblhau bydd Project Adloniant Parc Beechwood yn cynnig ardal dan loches i lwyfannu digwyddiadau yn y parc.

Mae Parc Neechwood yn barc 30 acer â choed aeddfed ac ardaloedd chwarae gyda mynedfeydd ar Chepstow Road, Christchurch Road a Beechwood Road.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant a Hamdden ei bod hi'n falch bod y cyfeillion wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer y project hwn.

“Rydym yn gobeithio drwy fuddsoddi ym Mharc Beechwood, gyda phrojectau fel hyn a chwrt tennis newydd, a’r gwaith datblygu sydd ar y gweill ar gyfer y misoedd nesaf, y bydd hyn yn golygu y bydd y parc poblogaidd hwn yn cael ei ystyried ar gyfer statws Baner Werdd yn y dyfodol fel parc Belle Vue Park.

“Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau ar yr ardal adloniant bydd yn lleoliad delfrydol ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau ac rwy’n edrych ymlaen at weld y project wedi’i gwblhau," meddai’r Cynghorydd Harvey.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.