Arestiadau yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 22nd September 2017
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rwy'n deall y gallai preswylwyr fod yn bryderus yn dilyn y digwyddiadau yng Nghasnewydd ddydd Mercher.
"Er nad yw'n briodol rhoi sylwadau ar yr ymchwiliad parhaus gan yr Heddlu Metropolitan, neu'r unigolion sydd wedi'u harestio, rydym yn gweithio'n agos â Heddlu Gwent a phartneriaid eraill i roi sicrwydd a chefnogi ein cymunedau.
"Byddaf yn annog aelodau o'r cyhoedd i adrodd unrhyw weithgaredd amheus i'r heddlu ond hefyd i fod yn wyliadwrus ynghylch trosedd casineb a chamdriniaeth ac adrodd unrhyw ddigwyddiadau."