Blwyddyn arall o dorri'r record adeiladu tai yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Monday 11th September 2017
Glan Llyn, Llanwern
Cafodd mwy na 950 o dai newydd eu cwblhau yng Nghasnewydd yn 2016/17 gan dorri'r record o'r llynedd.
Yn 2015/16, cafodd 908 o dai eu hadeiladu, sef y nifer uchaf o blith yr awdurdodau lleol yng Nghymru.
Yn ogystal â hynny, y disgwyl yw y bydd Casnewydd ar y brig, neu ddim yn bell o fod, unwaith eto pan gymharir y ffigurau ledled Cymru.
Mae nifer o safleoedd datblygu yn dod yn eu blaen yn y ddinas ac mae'r rhain wedi cyfrannu at y cyfansymiau, gan gynnwys Glan Llyn yn Llanwern, Jubilee Park yn y Tŷ Du, Mon Bank a Loftus Garden Village.
Cafodd 223 o unedau eu cwblhau yn Jubilee Park yn 2016/17, a hwn oedd y nifer uchaf.
Mae llawer o’r adeiladau newydd hyn hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu cyfleusterau ar gyfer y preswylwyr. Mae ysgolion newydd yn cael eu hagor, er enghraifft yn Jubilee Park, lle y mae wedi'i chynllunio y bydd ysgol gynradd newydd yn agor ym mis Medi, ac yng Nghlan Llyn lle y mae gwaith ar ysgol gynradd arall yn mynd rhagddo.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros adfywio a thai: “Mae cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd i ateb galw cynyddol ac mae'n bwysig bod cyfleusterau newydd yn cael eu creu'n rhan o safleoedd mwy diolch i gyfraniadau gan ddatblygwyr.
“Rwyf hefyd yn awyddus i weld bod datblygiadau yn cynnwys elfen o letyau fforddiadwy er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl i symud i mewn i'w cartref eu hunain.
“Rydym yn croesawu dulliau arloesol o roi cynlluniau ar waith, fel Loftus Garden Village Grŵp Pobl, sef cynllun rhanberchnogaeth ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu fforddio morgais draddodiadol.”