Gwaith i adfer llwybrau'r Glebelands
Wedi ei bostio ar Friday 13th October 2017
Gweithio i ddechrau yn Glebelands
Mae Adran Barciau Cyngor Dinas Casnewydd i fynd i’r afael â gwaith gwella ar rai o’r llwybrau ar Dir Hamdden Glebelands.
Mae llawer o’r llwybrau mewnol yn yr ardal wedi eu creu gan raean a chânt eu defnyddio gan gerddwyr ac i hwyluso mynediad i gerbydau cynnal a chadw’r cyngor.
Yn hanesyddol, roedd y Glebelands yn hen safle amwynder dinesig ac mae tuedd suddo yn y tir yn sgil gwneuthuriad y deunyddiau a geir dan yr wyneb.
O ganlyniad mae swyddogion wedi nodi nifer o lwybrau graean sydd ag angen eu huwchraddio gan fod eu cyflwr yn golygu fod mynediad bron yn amhosibl, yn enwedig yn ystod tywydd gwlyb.
Mae contractwr wedi ei gyfarwyddo i ddarparu, dosbarthu a chywasgu graean caregog i wella’r llwybrau hyn.
Mae’r gwaith i ddechrau yn ystod yr wythnos yn cychwyn 16 Hydref a gwneir pob ymdrech i leihau ar y tarfu cymaint ag y bo modd i’r gymuned.
Mae’r cyngor yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar tra bo’r gwaith brys yma yn mynd rhagddo ac yn ymddiheuro rhag blaen am unrhyw anghyfleustra gaiff ei greu tra bo’r llwybrau yn cael eu hadfer.