Datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer CDC
Wedi ei bostio ar Thursday 12th October 2017
Mae’r setliad cyllideb ddrafft heddiw gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn llai o arian yn ei Grant Cynnal Refeniw o flwyddyn i flwyddyn.
Ar ôl rhoi ystyriaeth i grantiau penodol a fydd bellach yn cael eu trosglwyddo i’r setliad cyffredinol, bydd Casnewydd yn derbyn toriad o 0.3 y cant ar gyfer 2018/19, gan fynd ag ef i lai na £207.7 miliwn.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox:
“Mae’r gyllideb ddrafft hon yn ein rhoi mewn sefyllfa anodd iawn – er gwaethaf gwneud arbedion o flwyddyn i flwyddyn mae gennym lai o arian fyth i'w wario pan fo galwadau ar wasanaethau a warchodir megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn tyfu.
“Unwaith eto, bydd awdurdodau lleol Cymru yn cario baich mesurau llymder parhaus yn y DU, wrth geisio gwneud eu gorau i gynnal a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae nifer o gynigion yn cael eu llunio fel rhan o broses cyllideb Casnewydd a bydd cyhoeddiad heddiw yn dylanwadau ar ba newidiadau y bydd angen i ni fwrw ymlaen â nhw. Mae her anodd gennym o amddiffyn y gwasanaethau mae ein bobl fwyaf agored i niwed yn dibynnu arnynt, wrth geisio buddsoddi yn ein dinas a pharhau i adeiladu Casnewydd well.
“Gwnaed arbedion o oddeutu £41 miliwn eisoes yn y pum mlynedd diwethaf, a bydd angen i’r Cyngor ddod o hyd i fwy o arbedion ar gyfer y dyfodol rhagweladwy, sy’n mynd i greu rhai penderfyniadau anodd iawn.
“Fodd bynnag, ni ddeuir ag unrhyw beth i mewn yn llechwraidd - rhoddir ystyriaeth lawn i bob opsiwn a bydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw."
Mae grant setliad Llywodraeth Cymru yn cynrychioli oddeutu 80% o gyllid net y Cyngor, gyda threth gyngor preswylwyr yn cyfrannu at lai nag 20% o’r pot.
Mae’r cyngor eisoes wedi gwneud arbedion ariannol sylweddol drwy leihau staff, datblygu modelau gwasanaeth newydd, dod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflenwi gwasanaethau, ac mewn rhai achosion, gorfod atal gwasanaethau y mae wedi eu cyflenwi'n hanesyddol, ond nad oedd modd iddo eu fforddio rhagor.
Yng nghyfarfod Cabinet fis Tachwedd, caiff cyfres o gynigion eu hystyried a fydd wedyn yn mynd allan i ymgynghori arnynt yn gyhoeddus. Caiff y canlyniadau eu hystyried eto gan y Cabinet yn y Flwyddyn Newydd, cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.