Newyddion

Disgyblion yn gorymdeithio drwy'r ddinas i ddathlu hanes y Siartwyr

Wedi ei bostio ar Monday 23rd October 2017

Bydd disgyblion o bump ysgol gynradd yng Nghasnewydd yn cymryd rhan yn yr orymdaith flynyddol drwy ganol y ddinas i gofio am Fudiad y Siartwyr.

Eleni, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 25 Hydref o 1.30pm lle bydd y disgyblion yn cychwyn o Barc Clifton, St Woolos.

Ymhlith yr ysgolion sy’n cymryd rhan mae Ysgol Gynradd Millbrook, Ysgol Gynradd   Pillgwenlli, Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph, Ysgol Gynradd St Woolos ac Ysgol Gynradd John Frost.

Bydd y plant wedi eu gwisgo ac yn actio rhannau’r Siartwyr, y lluoedd arfog, y dorf a gwleidyddion.

Bydd y disgyblion yn teithio i lawr Stow Hill i Sgwâr Westgate ar gyfer yr ail-greu y tu allan i westy’r Westgate. Bydd ffordd Stow Hill ar gau rhwng 1.15pm a 2pm.

Bydd Maer Casnewydd, Y Cynghorydd David Fouweather, yn mynychu’r digwyddiad ac mae croeso i breswylwyr alw heibio i gefnogi’r plant.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.