Newyddion

Lansio Apêl y Pabi yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 24th October 2017

Bydd lansiad swyddogol Apêl y Pabi 2017 y Lleng Frenhinol Brydeinig eleni yn digwydd yng Nghasnewydd ddydd Iau, 26 Hydref.

Bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather, a’r cyn-filwr lleol sy’n hen gyfarwydd ag Apêl y Pabi, Ron Jones, sy’n 100 oed, yn mynd i'r digwyddiad ynghyd ag Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken.

Mae LlFB Casnewydd wedi trefnu’r digwyddiad yn ardal agored Sgwâr John Frost.

Os bydd tywydd garw, bydd y digwyddiad yn cael ei symud i du mewn i ardal siopa Friars Walk.

Bydd band Is-adran Tywysog Cymru yn perfformio yn lleoliad o 10.30am ymlaen.

Am 11 y bore, bydd y Maer yn croesawu'r Brigadydd Aitken ac aelodau’r Lleng Frenhinol Brydeinig yn swyddogol.

Bydd Llywydd Sir Gwent y Lleng, yr Is-gyrnol Mike Harry, yn datgan yr Anogaeth, ac yna bydd ‘The Last Post' yn cael ei chwarae.

Yna, bydd yr Arglwydd Raglaw yn annerch y gynulleidfa ac yn datgan fod Apêl y Pabi 2017 ar gyfer Gwent ar agor yn swyddogol.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.