Teyrnged yr Arweinydd i ddau gyn-gynghorydd
Wedi ei bostio ar Monday 30th October 2017
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Hoffwn rannu fy nghydymdeimladau gyda theulu a ffrindiau Veronica Brydon a Bill Pursey, dau gyn-gynghorydd o Gasnewydd sydd wedi marw'n ddiweddar.
"Roedd y ddau yn aelod poblogaidd a oedd yn gweithio'n galed i gynrychioli eu cymunedau lleol yn ystod eu cyfnod o wasanaeth cyhoeddus.
"Fe wnaeth Veronica, a oedd yn gynghorydd ward ar Gyngor Bwrdeistref Casnewydd, hefyd wasanaethu fel Maer Casnewydd yn 1988/89, rôl a gyflawnodd ag urddas ac ymroddiad.
"Rydym yn cydymdeimlo gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, gan gynnwys cyn-gydweithwyr yn y cyngor, ar yr adeg trist hwn."