Newyddion

Digwyddiadau o amgylch Casnewydd yn nodi'r Wythnos Llyfrgelloedd Genedlaethol

Wedi ei bostio ar Thursday 5th October 2017

Mae llawer o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd a’r ardal o gwmpas i ddathlu’r Wythnos Llyfrgelloedd Genedlaethol.

Ac i'r rhai iau a gymerodd ran yn ein Her Ddarllen yr Haf, bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 7 Hydref.

Y gwestai arbennig yn y dathliad yn Theatr Glan-yr-Afon fydd Shoo Rayner, sydd wedi ysgrifennu a darlunio cannoedd o lyfrau plant ac y mae ei fideos dylunio ar YouTube wedi'u gweld fwy na 30 miliwn o weithiau. Bydd yn cymryd rhan mewn dwy sesiwn, un am 9.30am ac un am 11am.

Gall y rhai ifainc sydd wedi derbyn medel Her Ddarllen yr Haf gadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn mewn unrhyw lyfrgell. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd â’ch medel gyda chi pan fyddwch chi'n mynd yno.

Ddydd Llun, 9 Hydref, bydd y nofelydd rhamantaidd ingol sydd wedi ennill gwobrau, Evonne Wareham, yn ymwneud â Llyfrgell Malpas o 5.30pm ymlaen. Felly ewch draw i ddweud helo. Mae’r digwyddiad hwn am ddim.

Bydd Carl Gough yn rhoi gwedd gyfoes i’r arfer traddodiadol o adrodd straeon, ar thema mythau a chwedlau. Bydd yn bresennol yn Llyfrgell Caerllion ddydd Mawrth, 10 Hydref o 7.15pm ymlaen. Mae croeso i bawb ac mae mynediad am ddim.

Y sgriptiwr sgrîn a’r awdur nofelau trosedd, M R Hall, fydd y siaradwr gwadd yn Llyfrgell Tŷ-du  ddydd Mercher, Hydref 11. Eto, mae mynediad am ddim.

Bydd Llyfrgell Betws yn cynnal digwyddiad prynhawn ddydd Mawrth, 12 Hydref am 2.30pm pan fydd Andrew Hemmings, awdur ‘Secret Newport’ wrth law i ddatgelu ffeithiau cudd nad yw’r trigolion mwyaf lleol yn gwybod amdanynt hyd yn oed!

Nos Iau, 12 Hydref, bydd y cyflwynydd radio, y sylwebydd chwaraeon a’r awdur Phil Steele yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd am 7.15pm.

Dewch draw i glywed yr hyn sydd gan Phil i’w ddweud. Mae’n costio £5 i fynychu ac mae’n cynnwys gwydraid o win.

Bydd yr wythnos yn dod i ben gyda Diwrnod Llawn Hwyl yn y Llyfrgell Ganolog ddydd Sadwrn, 14 Hydref, rhwng 10am a 3pm.

Gall y rhai ifainc fwynhau paentio eu hwynebau, chwythu balŵns, adrodd straeon, crefftau a llawer mwy. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Debbie Harvey, ei bod wrth ei bodd â’r ffaith bod llyfrgelloedd y ddinas yn cynnal digwyddiadau i ddathlu’r Wythnos Llyfrgelloedd Genedlaethol.

“Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn Her Ddarllen yr Haf ac a enillodd fedel am eu hymdrechion. Mae’n wych gweld rhai ifainc yn mwynhau’r amrywiaeth eang o lyfrau sydd ar gael.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl hefyd yn manteisio ar y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal i ddathlu’r Wythnos Llyfrgelloedd Genedlaethol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt am ddim ac yn cynnig amrywiaeth eang o sgyrsiau ac adloniant i bawb o bob oedran.

“Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau lleol ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i archwilio’r hyn sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yr wythnos hon,” meddai’r Cyng. Harvey.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.