Edrych ymlaen at Ŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel
Wedi ei bostio ar Thursday 5th October 2017
Mae llai na 48 awr ar ôl tan fydd deiliaid y stondinau'n cyflwyno eu danteithion a'r cogyddion yn gwisgo eu ffedogau yng Ngŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel 2017.
O 9am ddydd Sadwrn 7 Hydref, bydd ymwelwyr i ganol dinas Casnewydd yn cael dewis o gynnyrch lleol, bwydydd o bedwar ban y byd, arddangosiadau gan gogyddion, cerddoriaeth, adloniant stryd a mwy.
Mae rhestr lawn o arddangoswyr a masnachwyr a manylion holl ddigwyddiadau a chynigion yr ŵyl ar gael yn http://www.newportfoodfestival.co.uk/ - ond dyma i chi ragflas:
- Tua 70 o stondinau ar hyd yr Heol Fawr
- Arddangosiadau am ddim gan gogyddion yn ardal galeri Casnewydd Nawr, Marchnad Casnewydd ac yn swyddfeydd Pobl (ar ben yr Heol Fawr), 11.30am - 3.30pm.
- Rownd derfynol Teenchef - yn ardal galeri Marchnad Casnewydd, 11am
- Adloniant stryd gan gynnwys Wonderbrass, Eggs on Legs, modelu balwnau a Capital FM streetstarts
- Cystadleuaeth y pen-cogyddion: Pryd Main v Pryd Gwyrdd, ardal galeri Casnewydd Nawr, Marchnad Casnewydd, 4pm
- Cynigion arbennig gan amryw o fusnesau Casnewydd ar y dydd.
Felly, da chi, ewch i ganol y ddinas rhwng 9am a 5pm i gael samplau a phethau blasus i fynd adref gyda chi a mwynhewch firi Gŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel 2017.
Noddwyr a chefnogwyr digwyddiad eleni yw'r prif noddwr Bragdy Tiny Rebel, yn ogystal â Celtic Manor Resort, The Golden Lion Magwyr a Casnewydd Nawr.
www.newportswimmingclub.co.uk
www.nccsec.newport.gov.uk/HomePortal
www.twitter.com/NewportFoodFest