Diwrnod Gwybodaeth i bobl dros 50
Wedi ei bostio ar Tuesday 24th October 2017
Bydd cymorth a chyngor i bobl dros 50 oed ar gael mewn diwrnod gwybodaeth blynyddol yng nghanol Casnewydd ddydd Sadwrn, 28 Hydref.
Mae’r digwyddiad, sydd â mwy na 100 o stondinau’n rhoi gwybodaeth ar ystod eang o destunau, wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Fforwm Dinasyddion Hŷn Casnewydd.
Mae mynediad am ddim a gall ymwelwyr gael gwybodaeth ar iechyd a llesiant, diddordebau hamdden, cyllid, tai a chymorth, rhwng 10am a 3pm.