Newyddion

Cydweithio i wella gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol

Wedi ei bostio ar Thursday 16th November 2017

Cynhelir cynhadledd genedlaethol i ddwyn ynghyd weithwyr proffesiynol sy'n gweithio i fynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghasnewydd yr wythnos hon yn ystod yr Wythnos Diogelu Genedlaethol

VAWDASV Gwent sydd wedi trefnu'r digwyddiad sy'n digwydd yng Nghanolfan Christchurch

Bydd yn hyrwyddo a rhannu gwaith partneriaeth gyda chydweithwyr drwy Gymru benbaladr.

Mae Gwent wedi bod yn ardal beilot ar gyfer cydlynu gwasanaethau'n strategol ers 2015.

Yn sgil hyn, mae VAWDASV Gwent wedi arwain ar nifer o fentrau i wella gwasanaethau yn unol â deddfwriaeth a bydd yn rhannu rhai o'r gwersi a ddysgwyd yn y gynhadledd.

Bydd hefyd yn lansio strategaeth gyntaf VAWDASV ar y cyd er mwyn ymgynghori arno. Y nod yw sicrhau cysondeb ac arfer gorau o ran y modd y caiff gwasanaethau eu blaenoriaethu ar draws y rhanbarth.

Dilynwch ar Twitter @GwentVAWDASV

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.