Newyddion

Cau maes parcio Park Square dros dro

Wedi ei bostio ar Friday 24th November 2017

Mae prosiect i adnewyddu’r ardal o amgylch Park Square wedi dechrau, sy'n cynnwys dymchwel rhai adeiladau a chreu cartrefi newydd.

Yn gynharach eleni, gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd gais am Archeb Brynu Orfodol ar Dafarn yr Hornblower yn 126 Commercial Street, Casnewydd.

Mae’r eiddo hwn yn rhan o brosiect VVP pwysig (Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid) a fydd yn creu mynedfa newydd i faes parcio Park Square a hyd at 30 o fflatiau fforddiadwy a gofod manwerthu gwell.

Fodd bynnag, er mwyn i’r gwaith barhau, bydd y fynedfa i’r maes parcio oddi ar Commercial Street ar gau o 27 Tachwedd 2017 tan haf 2019 yn ystod ailddatblygiad 123 – 129 Commercial Street.

Yn y cyfamser, dylai pob defnyddiwr ddefnyddio’r brif fynedfa ar Park Square lle mae’r ciosg â staff.

Mae’r datblygwyr a Chyngor Dinas Casnewydd yn ymddiheuro am hyn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.