Newyddion

MUGA Rivermead, Tŷ-du

Wedi ei bostio ar Friday 24th November 2017

Caiff ardal aml-gemau poblogaidd (MUGA) yn Nhŷ-du ei chau dros dro am oddeutu dau fis yn y flwyddyn newydd er mwyn gwneud gwaith gwella pellach.

Gwnaethpwyd gwaith i uwchraddio'r MUGA yn gynnar eleni ond mae bellach angen gwneud mwy o waith i wella inswleiddio sŵn y amcangyfrif y bydd yn costio £86,000.

Mae oriau agor newydd yn cael eu cyflwyno o ddydd Llun 27 Tachwedd, i sicrhau bod defnydd o'r cyfleuster yn cael ei reoleiddio i osgoi camddefnydd.

Er y bydd yr ardal ar agor bob dydd, ar ddydd Sul mae angen i rywun dros 18 oed ei chadw a rhaid i unrhyw ddefnydd gael ei oruchwylio gan oedolyn cyfrifol.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon: "Yn anffodus, mae nifer o broblemau wedi bod gyda'r ardal gemau hon dros y blynyddoedd diwethaf.

"Roedden ni'n gobeithio y byddai'r gwaith wedi'i wneud yn gynharach eleni yn datrys y materion ond mae wedi dod yn glir bod angen gwneud mwy er mwyn lliniaru'r sefyllfa.

"Rwy'n gwybod bod y MUGA yn boblogaidd iawn gyda llawer o bobl ifanc ond mae hefyd wedi'i chamddefnyddio. Roedd yn bwysig dal y fantol cywir fel y gall yr ardal barhau i fod ar agor a gobeithio y bydd y gwaith yn ogystal â'r rheolau newydd yn golygu y gall barhau i wasanaethu'r gymuned yn y dyfodol."

Mae'r oriau agor newydd fel a ganlyn: 9pm than 6pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener; 9am tan 8pm ar ddydd Mercher; 9am tan 4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul (pan fo angen cadw'r ardal a'i goruchwylio pan fo'n cael ei defnyddio).

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.