Newyddion

Coffa 2017: Rhag i ni anghofio

Wedi ei bostio ar Thursday 2nd November 2017
Remembrance poppy

Cynhelir gwasanaeth Sul y Coffa blynyddol Casnewydd yn y Senotaff yn Clarence Place ddydd Sul 12 Tachwedd.

Bydd parêd, wedi'i arwain gan Fand Pibau a Drymiau a Brigâd y Bechgyn, yn dechrau yn y Stryd Fawr am oddeutu 10.30am.

Bydd Maer a Maeres Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather a Paula Fouweather, yng nghwmni dau fyrllysgwr o Gadetiaid Môr Casnewydd, a'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, yn cerdded i'r Senotaff.

Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau gwasanaeth a grwpiau dinas eraill hefyd yn cymryd rhan yn y parêd.

Bydd y gwasanaeth, wedi'i arwain gan Esgob Trefynwy, y Gwir Barchedig Richard, yn cael ei gynnal ychydig cyn 11am a chaiff gynnau eu tanio i nodi dechrau dwy funud o dawelwch cyn i'r torchau gael eu gosod.

Ar ôl y gwasanaeth, bydd y Maer, Arglwydd Raglaw Gwent, Prif Swyddog y 104ydd Catrawd, yr Uchel Siryf ac urddasogion eraill yn derbyn y saliwt o'r parêd wrth i gyfranogwyr gerdded yn ôl i'r Stryd Fawr.

Am 10.45am ddydd Llun 6 Tachwedd, bydd y Maer a'r Faeres yn mynd i ddigwyddiad agor y Gerddi Coffa wrth ymyl y Senotaff.

Bydd y Parchedig Keith Beardmore, Caplan y Lleng Brydeinig Brenhinol, yn arwain y gwasanaeth a bydd biwglwr yn chwarae'r 'Last Post' yn ystod y gwasanaeth. Bydd y Maer ac eraill yn plannu croesau yn yr ardd cyn i'r gwasanaeth ddod i ben am 11am.

Am 11am ddydd Gwener 10 Tachwedd, bydd cyflogeion Cyngor Dinas Casnewydd ac ymwelwyr ag adeiladau'r Cyngor yn cymryd rhan yn y ddwy funud o dawelwch a gaiff ei gynnal yn genedlaethol i gofio ac anrhydeddu'r holl bobl a fu farw mewn gwrthdrawiadau yn gwasanaethu eu gwlad.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.