Newyddion

Gwobr fawr i ysgol feithrin

Wedi ei bostio ar Tuesday 28th November 2017
Fairoak Nursery School wins NQA award

Ysgol Feithrin Fairoak Casnewydd

Mae staff a disgyblion yn Ysgol Feithrin Fairoak Casnewydd yn dathlu ar ôl derbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach.

Dim ond ysgolion a all brofi eu bod yn rhoi mentrau llesiant ar waith ar y lefel uchaf sy’n gymwys i dderbyn y wobr.

Bu dilyswyr ar ymweliad â’r ysgol yn gynharach eleni ac yn eu hadroddiad fe nodon nhw ei bod hi’n amlwg o’r dechrau’n deg a thrwy gydol yr ymweliad bod iechyd a llesiant wrth wraidd popeth yn yr ysgol ac i’w weld ym mhopeth sy’n digwydd yno, ar gyfer disgyblion, staff a rhieni.

Â’r adroddiad yn ei flaen i ddweud: “Mae datganiad cenhadaeth yr ysgol ‘Rhoi Meddyliau Bywiog ar Waith’ i’w weld yn ymarferol ar bob adeg.”

Dywedodd y Pennaeth Mrs Andi O’Brien fod yr ysgol wedi bod yn rhan o’r rhaglen ers 2003.

Dywedodd: “Mae hyn wedi cadarnhau ein hymrwymiad i osod iechyd a llesiant wrth galon popeth a wnawn yn Ysgol Feithrin Fairoak. Mae wedi bod yn wych gweld pawb yn ymuno â phob agwedd ar y rhaglen gan gynnwys disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr ac aelodau o’n cymuned leol.

“Rydym yn falch o’n hamgylchedd a’r cyfleon yr ydym yn eu cynnig i alluogi ein plant i fod yn ddysgwyr iach, annibynnol sydd wedi ymgysylltu’n llwyr â’r byd o’u cwmpas.

“Mae ein plant ni oll yn cael hwyl ac yn caru dysgu a datblygu i fod y gorau y gallan nhw fod.”

Gwnaeth Mrs O’Brien sylw penodol ynghylch Mrs Jayne Morgan sydd wedi cydlynu’r rhaglen ers 2014 ac wedi arwain yr ysgol trwy Gam 5 a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol.

Gwnaeth Gail Giles, Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, longyfarch yr ysgol feithrin ar ei llwyddiant gan ddweud:

 “Da iawn i bawb sydd ynghlwm wrth ysgol feithrin Fairoak sydd wedi helpu i gyflawni'r gamp hynod hon. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth am yr holl waith caled sydd yn mynd at sicrhau fod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd iach gyda’u llesiant wrth wraidd popeth a wnânt.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.