Newyddion

Digartrefedd a cysgu ar y stryd

Wedi ei bostio ar Friday 3rd November 2017

Mae digartrefedd yn fater y mae sefydliadau ledled y ddinas yn ei gymryd o ddifrif, ac maent eisiau sicrhau bod gan bawb le diogel i gysgu ynddo bob nos.

Ond, wrth i nifer y bobl sy'n ddigartref barhau i godi ledled y wlad - nid yn unig yng Nghymru a Chasnewydd - mae'n fater cymhleth a sensitif.

Dylid dweud nad yw pawb sy'n cael eu dosbarthu fel pobl ddigartref yn bobl sy'n cysgu ar y stryd ac nid yw pawb sy'n cysgu ar y stryd yn methu dod o hyd i lety.

Yn yr un ffordd, nid yw pawb sy'n cardota yn ddigartref neu'n cysgu ar stryd ond gallent fod yn gofyn am arian am amrywiaeth o resymau gan gynnwys ariannu dibyniaeth neu er elw ariannol.

Mae gan Gasnewydd lawer o wasanaethau ar gyfer helpu'r bobl hynny sy'n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd a gynigir gan sefydliadau yn y ddinas.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent ac elusennau arbenigol megis The Wallich ac Eden Gate yn cydweithio'n agos gan eu bod yn cydnabod bod rhai pobl sy'n agored iawn i niwed yn ein cymdeithas y mae angen cymorth arnynt.

Maent hefyd yn cydnabod bod nifer fach o unigolion y gall eu hymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio'n anghyfartal ar eraill.

Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet y cyngor dros adfywio a thai: "Yn aml cysylltir digartrefedd â phobl sy'n cysgu ar y stryd yn unig. Er mai'r ffurf mwyaf difrifol o ddigartrefedd yw hyn, mae'n werth nodi bod nifer y bobl sy'n byw ar y stryd yn cynrychioli nifer fach o gymharu â'r bobl hynny sy'n dod aton ni a sefydliadau eraill am gymorth gyda digartrefedd.

"Mae gan y Cyngor nifer o weithdrefnau effeithiol ar gyfer taclo a lleihau digartrefedd ac rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i sicrhau bod dull ar y cyd o gael mynediad at lety a chymorth.

"Yn fwy na dim, rydym yn bwriadu ymyrryd cyn gynted â phosibl i helpu'r bobl hynny sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.

"Bydd amseroedd pan ddaw unigolion neu deuluoedd yn ddigartref ac rydym hefyd yn cymryd agwedd gadarnhaol a rhagweithiol at yr achosion hyn. Yn anffodus, mae adegau pan fod ymyrraeth y Cyngor ac asiantaethau eraill yn methu â sicrhau dewisiadau addas ond rydym yn parhau i gynnig cymorth, cyngor a chymorth ymarferol tuag at sicrhau llety.

"Rhaid pwysleisio bod llwyddiant y gwaith hwn yn dibynnu ar gynnwys unigolion a gall hyn fod yn broblematig am ystod o resymau, yn enwedig gyda phobl sy'n byw bywyd anhrefnus.

"Mae costau helpu pobl sydd â phroblemau tai wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diweddar ac mae hyn yn dangos y galw yr ydym yn ei wynebu.

"Rydym wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i'r afael â digartrefedd yn y ddinas mewn cyfnod o galedi parhaus sydd wedi effeithio'n ddifrifol ar gyllidebau'r Cyngor a phwysau cynyddol ar drigolion oherwydd problemau ariannol y maent yn ymdrin â nhw gan gynnwys toriadau i fudd-daliadau a chostau cartref cynyddol."

Mae grŵp aml-asiantaeth yn mynd i'r afael â'r mater o bobl yn cysgu ar strydoedd y ddinas.

Dywedodd Arolygydd Heddlu Gwent dros ganol y ddinas, Rob Jenkins: "Rwy'n mynychu'r grŵp gorchwyl cysgu ar y stryd ac rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner i rannu gwybodaeth a chefnogi mentrau i helpu'r bobl hynny sy'n ddigartref yng Nghasnewydd.

"Rydym wedi ymrwymo i gynnig y cymorth priodol i'r unigolion hynny sydd ei angen fwyaf yn y gymuned. Rwyf hefyd yn cydnabod bod lleiafrif bach sy'n cardota yng nghanol y ddinas nad ydynt yn ddigartref neu gydag angen am gymorth ychwanegol.

"Mae'r unigolion hyn yn aml yn cardota i ariannu eu ffordd o fyw a byddwn yn annog y cyhoedd i gyfrannu eu harian trwy elusennau adnabyddedig yn hytrach na'i roi'n uniongyrchol i'r bobl hynny sy'n cardota gan y gall hyn yn aml eu hatal rhag ceisio help gan bartneriaid priodol.

"Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y cyhoedd ynghylch cardota, rwyf wedi rhoi tasg i fy swyddogion i batrolio canol y ddinas a nodi'r unigolion hynny er mwyn ceisio eu hatal rhag cardota a'u cyfeirio at gymorth. Trafodir pob unigolyn yng nghyfarfodydd y grŵp gorchwyl cysgu ar y stryd fel y gallwn gynnig cymorth wedi'i deilwra i'w hanghenion unigol.

"Fodd bynnag, mae cardota'n drosedd ac ymdrinnir â'r rhai hynny sy'n niweidio'r gymuned fwyaf yn briodol a byddwn yn annog y cyhoedd i adrodd unrhyw ddigwyddiadau o gardota i'r heddlu trwy ffonio 101.

Gall aelodau o'r cyhoedd sydd am helpu'r bobl hynny sydd ar y stryd wneud felly mewn amrywiaeth o ffyrdd ond nid yw rhoi arian yn uniongyrchol i'r bobl hynny sy'n cardota'n ateb. Gallent fod yn atal pobl rhag ceisio'r cymorth y mae ei angen arnynt i ddod o hyd i atebion sy'n fwy hirdymor i'w problemau neu hyd yn oed roi i bobl nad ydynt yn ddigartref neu'n byw ar y stryd.

Gofynnir i bobl sydd am helpu'r bobl hynny sydd mewn angen ariannol beidio â rhoi arian yn uniongyrchol i'r bobl hynny sy'n gofyn amdano ond ei roi i elusennau sy'n cynnig cymorth arbenigol. Croesewir gwirfoddolwyr sydd am roi help mwy ymarferol gan y sefydliadau hynny hefyd.

Mae The Wallich, sy'n elusen ddigartrefedd, yn gweithio gyda rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae'n arbenigo mewn cynnig gwasanaethau allgymorth ac atal i bobl sydd ag anghenion lluosog a chymhleth; gallai rhai gael eu heithrio o wasanaethau eraill neu gael trafferth dod o hyd i lety.

Yng Nghasnewydd, ceir dau brif wasanaeth - y Tîm Ymyrryd â Chysgu ar y Stryd (TYCS) a phroject PREP sy'n gweithio gyda phobl sy'n gadael y carchar.

Meddai Denise Rogers o The Wallich yng Nghasnewydd: "Mae rhai o'r rhesymau sy'n cyfrannu at ddigartrefedd yn cynnwys: chwalu perthynas, colli swydd, materion hanesyddol, mater troseddu, sancsiynu budd-daliadau a dim mynediad at arian cyhoeddus."

 "Mae gan bobl yng Nghasnewydd ymateb cymysg i gysgu ar y stryd. Mae rhai pobl yn gefnogol ac am helpu trwy gyfrannu bwyd ac adnoddau. Mae hefyd wedi bod ymateb da i StreetLink (www.streetlink.org.uk), gwasanaeth sy'n annog y cyhoedd i roi gwybod am gysgwyr ar y stryd fel y gallant gael eu cysylltu â gwasanaethau lleol a phriodol yng Nghasnewydd."

 "Fodd bynnag, mae rhai aelodau o'r cyhoedd yn canfod mai cysgu ar y stryd yw achos llawer o'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cael ei adrodd. Er bod cynnydd wedi bod yn nifer y cysgwyr ar y stryd a'r swm o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ni ellir priodoli hyn i unigolion digartref ar y stryd."

 "Mae llawer o gysgwyr ar y stryd yn ardaloedd canol y ddinas gan eu bod yn teimlo'n ddiogelach; mae hyn, yn ei dro, yn eu gwneud yn fwy gweladwy fel grŵp. Rhaid nodi hefyd fod gan rai o'r bobl hynny sy'n yfed ar y stryd a chardota rywle i aros mewn gwirionedd. Nid yw'n sefyllfa syml. Mae hyn yn dangos angen am sgyrsiau gwybodus am y materion ac agwedd gydweithredol barhaol gan yr holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth y mater."

 "Mae lleihau cysgu a chardota ar y stryd yn flaenoriaeth uchel i'r grŵp gorchwyl cysgu ar y stryd, ac rydym yn cydnabod bod angen mentrau i fynd i'r afael â'r mater."

Mae Eden Gate ar gael yng Nghasnewydd i'r bobl hynny sy'n agored i niwed, naill ai gan nad oes cartref gyda nhw neu gan fod ganddynt ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol (neu'r ddwy weithiau).

Meddai Marc Hepton o'r elusen: "Mae llawer o bobl sy'n fodlon helpu. Rydym eisiau helpu'r bobl hynny na allant ymdopi ac rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny trwy ein perthynas arbennig gydag eglwysi Casnewydd a'u haelodau.

 "Nid yw'n ymwneud â helpu pobl i gael llety yn unig; mae'n ymwneud â helpu pobl gyda'u problemau go iawn megis dibyniaeth ar gyffuriau. Os nad ymdrinnir â'r problemau hynny, yna maent yn wynebu trafferthion cynnal llety."

Mae Eden Gate yn cynnig sesiynau galw heibio bum gwaith yr wythnos lle y gall pobl sy'n agored i niwed neu sy'n ennill incwm isel - nid pobl ddigartref yn unig - gael cwpanaid o goffi a bisged mewn amgylchedd diogel a thawel. Nod yr elusen yw gweld pobl yn gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau a chynnal cysylltiadau cryf gyda gwasanaethau lleol i helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer gwesteion sy'n defnyddio'r gwasanaeth.  

Mae eglwysi lleol hefyd yn dod ynghyd ar ddydd Sul ac yn cynnir "cinio mewn bag".  Mae hefyd yn cynnal lloches nosau'r gaeaf ac mae estyn y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ystyried i fynd i'r afael ag angen lleol yng Nghasnewydd.

 "Gall fod yn gyfnod hir o adeiladu ymddiried felly gallwn gysylltu pobl â gwasanaethau lle y gallant ddianc rhag alcohol a chyffuriau," meddai Mr Hepton.

Mae Adran Gwella Busnes Newport Now, sy'n cynrychioli busnesau ledled canol y ddinas, yn gweithio i helpu i leihau cardota ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy ddatblygu cynllun rhoi mewn partneriaeth â'r elusen digartrefedd The Wallich.

Dywedodd Kevin Ward, rheolwr Newport Now: "Mae cynlluniau rhoi, sy'n gweithredu mewn nifer o drefi a dinasoedd ledled y DU, yn cynnig dull amgen i'r cyhoedd gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ddigartrefedd drwy eu hannog i roi'n gyfrifol i asiantaethau sy'n gweithio'n uniongyrchol i daclo materion o'r fath.

"Mae'r cynllun yn ceisio annog pobl rhag rhoi i gardotwyr stryd yng nghanol y ddinas ac yn lle hynny bydd yn cynnig dulliau sicr amgen o roi i The Wallich, gyda'r holl gyfraniadau'n cael eu dyrannu i brojectau yng nghanol y ddinas.

"Mae cyllid ar gyfer y cynllun wedi'i gytuno gan Fwrdd Cyfarwyddwyr BID, sy'n cynnwys perchnogion a rheolwyr busnes canol y ddinas, a rhagwelir y bydd ar waith cyn diwedd y flwyddyn."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.