Cais am Gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Pont Gludo Casnewydd
Wedi ei bostio ar Thursday 9th November 2017
Mae Pont Gludo Casnewydd
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno cais am £10 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gyflawni gwaith ar y Bont Gludo eiconig.
Mae’r Bont, y mae ei strwythur metel enfawr ynghyd â'r gondola a ddefnyddir i gario cerbydau ar draws Afon Wysg i’w gweld o sawl man yn y ddinas, ar gau ar hyn o bryd ar gyfer tymor y gaeaf.
Bydd Cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor i gyflawni gwaith trwsio, adfer y gondola, gwella’r safle ac adeiladu canolfan ymwelwyr newydd.
Mae Pont Gludo Casnewydd yn un o ddim ond pum pont gludo sydd ar waith yn y byd, a dyma’r un lle mae’r mwyaf o’r strwythur gwreiddiol i’w weld o hyd.
Byddai cais y cyngor yn cystadlu yn erbyn projectau o bob cwr o'r DU, a does dim sicrwydd y bydd y cais yn llwyddiannus.
Mae’n rhaid i’r cais fynd trwy 2 gam; y cynnig cychwynnol hwn yw’r cam cyntaf ac mae'n rhaid i'r cyngor ddod o hyd i £1.25m posibl yn ei raglen gyfalaf ar gyfer y gofyniad o ran cyllid cyfatebol pe bai’r cynnig yn llwyddiannus ac yn cyrraedd cam dau.
Caiff adroddiad ar y cais arfaethedig ei drafod yng nghyfarfod nesaf y cabinet ddydd Mercher 15 Tachwedd.