Newyddion

Daw casgliadau gwastraff gardd l ben ar 1 Rhagfyr

Wedi ei bostio ar Thursday 16th November 2017
Garden waste bin_1

I bobl sydd am sicrhau bod eu gerddi'n barod am y gaeaf, sylwer mai dydd Gwener 1 Rhagfyr fydd y casgliadau gwastraff gardd olaf.

Fodd bynnag, byddant yn dychwelyd ychydig yn gynharach y flwyddyn nesaf pan fydd casgliadau'r biniau oren â chaead yn dechrau eto ddydd Llun 26 Chwefror 2018.

Gallwch hefyd fynd â gwastraff gardd i'n Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ar Ffordd y Dociau sydd ar agor 7.30am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am-4.30pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Yr amser olaf i gael mynediad i'r safle yw 15 munud cyn yr amser cau. Mae'r safle ar gau ar wyliau banc (ac eithrio Dydd Gwener y Groglith).

Ni ddylid rhoi sachau na bagiau plastig mewn cynwysyddion ailgylchu na chompostio.

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan. Ewch i www.newport.gov.uk/cy/Waste-Recycling/Waste-Recycling.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.