Gwasanaeth Parcio a Theithio Nadolig Am Ddim
Wedi ei bostio ar Wednesday 8th November 2017
Disgwylir i’r bysus adael y maes parcio uchaf yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd
Os hoffech fwynhau teithiau siopa i Gasnewydd heb boeni am barcio yna gallwch fanteisio ar y gwasanaeth parcio a theithio Nadolig am ddim, sy’n dechrau ddydd Sadwrn, 11 Tachwedd.
Mae Trafnidiaeth Casnewydd yn cynnig y gwasanaeth hwn bob dydd Sadwrn tan 23 Rhagfyr.
Disgwylir i’r bysus adael y maes parcio uchaf yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd gan ddechrau am 9am a mynd i ganol y ddinas trwy Queensway a’r Stryd Fawr a gollwng yn stand 15A yng Ngorsaf Bysus Casnewydd.
Disgwylir i’r bysus redeg bob 10 munud, yn dibynnu ar ofynion teithwyr a pharhau gydol y dydd gyda’r bws olaf yn gadael y ganolfan ddinesig am 5.50pm.
Disgwylir i'r siwrneiau'n ôl o’r orsaf fysus hefyd redeg bob 10 munud, gan ddechrau o 9.05am tan 5.55pm.