Newyddion

Arweinydd y Cyngor yn cael ei dewis yn Gymrawd yr IWA

Wedi ei bostio ar Thursday 9th November 2017
DebbieWilcox

Mae’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wedi derbyn gwahoddiad i fod yn Gymrawd yn Sefydliad Materion Cymreig yr IWA.

Bydd y Cynghorydd Wilcox, y fenyw gyntaf erioed i arwain y Cyngor a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ymuno â rhestr nodedig o aelodau'r sefydliad annibynnol hwn.

Cafodd y system Cymrodorion ei chreu i gydnabod gwaith pobl sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd Cymru yn eu maes.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae’r gwahoddiad i fod yn Gymrawd gyda’r IWA yn anrhydedd fawr. Mae’n elusen annibynnol sy’n fawr ei pharch ac mae ganddi’r nod bwysig o sicrhau bod Cymru’n datblygu a ffynnu.

“Mae derbyn gwahoddiad o’r fath yn deyrnged fawr i’r cyngor a’r ddinas, yn ogystal â bod yn anrhydedd bersonol i mi.

“Edrychaf ymlaen at gyfrannu at waith arloesol yr IWA, yn canolbwyntio ar yr economi, addysg ac iechyd - pethau sydd mor bwysig i les a ffyniant y sawl sy'n byw ac yn gweithio yma.

Dywedodd cyfarwyddwr yr IWA, Auriol Millier: ‘Rydyn ni wrth ein bodd yn yr IWA i groesawu’r Cynghorydd Debbie Wilcox i’n plith yn Gymrawd.  Daw ein Cymrodorion â chyfoeth o brofiad amrywiol i'n plith, yn bont rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector. Dônt o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth gyda’n gwaith o Greu Cymru Well.’

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.