Angen sylwadau ar y cynllun Stryd Fawr
Wedi ei bostio ar Wednesday 8th November 2017
Mae cynllun rheoli cadwraeth wedi'i baratoi ar gyfer Stryd Fawr fel rhan o brosiect sydd â'r nod o adfer Arcêd y Farchnad.
Yn gynharach eleni, sicrhaodd Cyngor Dinas Casnewydd gyllid cychwynnol i ddatblygu cynllun i greu cysylltiad rhwng Stryd Fawr a Stryd y Farchnad.
Mae'r prosiect wedi bod yn hyrwyddo a dathlu ymwybyddiaeth o dreftadaeth gyfoethog Casnewydd gyda'r nod o drawsnewid Arcêd y Farchnad yn ddewis masnachol deniadol yng nghanol y ddinas.
Yn ddiweddarach eleni, bydd cynnig yn cael ei gyflwyno ar gyfer yr ail gam a fydd yn pennu manylion pensaernïol yr arcêd Fictoraidd Gradd II.
Mae Cynllun Rheoli Ardal Gadwraeth y Stryd Fawr yn parhau â'r gwaith a wnaed gan yr astudiaeth cymeriadaeth a gyhoeddwyd yn yr hydref.
Mae'r prif bwyntiau'n cynnwys:
- Cydnabod asedau treftadaeth yr ardal
- Nodi risgiau sy'n bygwth pwysigrwydd a nodweddion arbennig yr ardal
- Cynllun gweithredu i sicrhau bod yr ardal yn cael ei rheoli, ei gwarchod a'i gwella
Rhaid cyflwyno sylwadau erbyn 8 Rhagfyr. I ddarllen yr adroddiad llawn, dysgu sut i gyflwyno sylwadau a chael rhagor o wybodaeth am brosiect Arcêd y Farchnad, ewch i http://www.newport.gov.uk/en/About-Newport/CityontheRise/Market-Arcade.aspx