Newyddion

Diwrnod Hawliau Gofalwyr

Wedi ei bostio ar Monday 20th November 2017

Gwahoddir gofalwyr Casnewydd i ddigwyddiad am ddim yn Ystafell Glan-Yr-Afon Canolfan Casnewydd rhwng 10am a 2pm ar 22 Tachwedd.

Bydd mwy na 20 stondin gwybodaeth yn y digwyddiad wedi'i drefnu gan Gyngor Dinas Casnewydd ar y cyd â grwpiau a sefydliadau lleol.

Bydd y rhain yn helpu gofalwyr i ddeall eu hawliau yn ogystal â sut mae dod o hyd i help a chymorth.

Bydd sesiynau tylino a mwytho am ddim ar gael hefyd.

Mae gofalwr yn unrhyw un sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu, heb gyflog, sydd yn methu ag ymdopi heb eu cymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethineb.

Os hoffech chi ddod neu am gael mwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.