Newyddion

ABP Casnewydd Cymru 10K yn ychwanegu dimensiwn arall

Wedi ei bostio ar Monday 27th November 2017

Bydd ras 10k newydd sbon yn ychwanegu dimensiwn arall cyffrous at Farathon ABP Casnewydd Cymru ar 29 Ebrill 2018.

Bydd ras 10k ABP Casnewydd Cymru’n cynnig i redwyr o bob gallu’r cyfle i fod yn rhan o oes newydd i redwyr pellter yng Nghymru heb wynebu’r pellter llawn o 26.2 o filltiroedd.

Bydd y ras 10K yn dechrau am 9.45am, a hynny’n fuan ar ôl i filoedd groesi linell ddechrau’r marathon ar y cwrs gwastad, cyflym y Gwanwyn nesaf.  Pan dannir y dryll dechrau, bydd rhedwyr yn dilyn yn ôl troed y rhedwyr marathon tua'r dwyrain, cyn dilyn y llwybr o amgylch Park Spytty a'r Bont Gludo eiconig tuag at y llinell groesi a'r prif eisteddleoedd yng nghanol y ddinas.  

Disgwylir y bydd rhyw 10,000 o redwyr yn cymryd rhan ynddo dros ŵyl penwythnos o redeg.  Mae lleoedd yn y marathon yn gyflym cael eu llenwi – mae mwy na 4,500 o leoedd bellach wedi'u gwerthu i brif ddigwyddiad rhedeg pellter newydd Cymru.

Gellir cofrestru ar gyfer y ras 10K am gyn lleied â £21. Mae hynny'n cynnwys crys-t gorffen technegol, medal unigryw a bagiau llawn pethau da.

Mae cyfle bellach i redwyr brwd hefyd gofrestru ar gyfer tri digwyddiad Rhedeg Dros Gymru am bris gostyngol.  Bydd menter tymor tocyn newydd yn rhoi lle i chi yn ras 10K ABP Casnewydd Cymru, Ras Bae Caerdydd, a ras 10K newydd yn Ne Cymru a fydd yn cael ei datgelu yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Yn dilyn disgwyl mawr, bydd Cymru’n cynnal digwyddiad torfol 26.2 milltir, sef Marathon ABP Casnewydd Cymru, ar 29 Ebrill 2018.

“Rydym ni am i’r penwythnos fod yn ddathliad o redeg yn ei wir ystyr, a bydd ras 10K ABP Casnewydd Cymru’n rhoi i bobl o bob oed a gallu’r cyfle i fod yn rhan o benwythnos hanesyddol o ran rhedeg yng Nghymru heb orfod rhedeg ar hyd pellter llawn a heriol marathon.

“Mae lansiad ein tocyn tymor newydd yn cynnig pris gostyngol gwych i redwyr sy'n herio eu hunain yn rheolaidd mewn digwyddiadau Rhedeg Dros Gymru, neu i’r sawl sy'n chwilio am her newydd i ddechrau'r flwyddyn newydd."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’n bwysig i ni fod digwyddiadau yng Nghasnewydd yn apelio i gynulleidfa eang.  Bydd y llwybr 10K yn denu mwy byth o redwyr – a byddai’n wych eu gweld nhw'n ôl yn y blynyddoedd nesaf i roi cynnig ar y marathon.  Yn ogystal â’r prif rasys, bydd digwyddiadau eraill i’r teulu cyfan, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ystod eang o gystadleuwyr a chefnogwyr i’n dinas y flwyddyn nesaf.”

Mae’r NSPCC – yn sgil cael ei ddatgelu fel Prif Partner Elusennol Marathon ABP Casnewydd Cymru a'r Ras 10K - hefyd yn cynnig lle yn y ras 10K am £1. Bydd y 50 cyntaf a fydd yn cofrestru ac yn ymrwymo i godi £200 at brif elusen plant y DU yn gallu cofrestru am bunt, neu £10 ar ôl hynny.  

I gadw'ch lle ar y llinell ddechrau neu i gael rhagor o wybodaeth am beth sy’n argoeli fod yn benwythnos bythgofiadwy, ewch i www.newportwalesmarathon.co.uk

Bydd 1,000 o docynnau tymor am gyn lleied â £59 (£10 yn rhatach ar y cyfan) ar gael ac mae disgwyl iddyn nhw werthu’n gyflym.  Mae modd i redwyr gofrestru ymlaen llaw i gael mynediad blaenoriaeth yn http://bit.ly/R4W10KSeries.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.