Gwirfoddolwyr yn helpu i roi hwb i ddydd Gwener Digidol mewn llyfrgelloedd lleol
Wedi ei bostio ar Tuesday 30th May 2017
Mae trigolion sy’n awyddus i ddysgu mwy am ddefnyddio’r rhyngrwyd yn gallu cael help yn nifer o lyfrgelloedd Cyngor Dinas Casnewydd.
Cynhelir y digwyddiadau hyn mewn cydweithrediad â gwirfoddolwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyda chymorth gan Cymunedau Digidol, project cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’r Cyngor i ddatblygu dydd Gwener Digidol fel ffordd o gefnogi pobl i wneud mwy ar-lein.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: “Mae’r gwasanaeth am ddim hwn ar gael i unrhyw un a hoffai gael help i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac i roi hyder i bobl i ddefnyddio eu dyfeisiau.
“Rydym yn ddiolchgar iawn o gael y bartneriaeth hon gyda’n staff llyfrgell a gwirfoddolwyr Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd ar gael i ateb cwestiynau a rhoi cyngor ymarferol yn ystod y sesiynau wythnosol a misol hyn.”
Mae’r sesiynau galw heibio ar ddydd Gwener yn y llyfrgell ganolog a llyfrgell Ringland o 2pm tan 4pm ac yn fisol yn llyfrgell Tŷ-du, 9.15am tan 11.15am ar 23 Mehefin, 28 Mehefin, 18 Awst, 29 Medi, 20 Hydref a 24 Tachwedd ac yn llyfrgell Bettws o 9.30am tan 11.30am ar 9 Mehefin, 21 Gorffennaf, 11 Awst, 22 Medi, 13 Hydref a 17 Tachwedd.
Dywedodd Nathanael Jones, cydlynydd gwirfoddol dydd Gwener Digidol: “Yma yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i helpu pobl i gael mynediad gwell at wybodaeth.
“Gyda chymaint o adnoddau a gwasanaethau ar-lein nawr mae’n bwysig bod pobl yn gallu defnyddio’r dechnoleg hon. Mae gweithio gyda Llyfrgell Dinas Casnewydd i roi’r cymorth hwn yn rhywbeth sy’n werth chweil i staff y Swyddfa Ystadegau Gwladol.”
Yn ogystal, canmolodd Matthew Lloyd, Rheolwr Projectau, Cymunedau Digidol Cymru, wirfoddolwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol a staff y llyfrgell. Dywedodd: “Mae sesiynau dydd Gwener Digidol yn ffordd wych i bobl gael cymorth mewn sesiynau galw heibio hamddenol.
"Mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn enghraifft wych o’r sector cyhoeddus yn dod ynghyd i helpu pobl i gymryd camau graddol i ddefnyddio technoleg digidol er budd personol.
“Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cefnogi'r fenter yng Nghasnewydd a siroedd eraill sy’n cynnal dydd Gwener Digidol a sesiynau galw heibio, yn ein dyhead i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb sydd am fynd ar-lein yn cael cymorth i wneud felly. Mae’r agwedd yng Nghasnewydd i gael ei chanmol ac rydym yn awyddus i gefnogi'r gwaith o ddatblygu syniadau tebyg ledled Cymru.”