Rhodri Morgan
Wedi ei bostio ar Thursday 18th May 2017
Dymuna Cyngor Dinas Casnewydd estyn cydymdeimlad at deulu a chyfeillion Rhodri Morgan ar yr adeg trist hwn.
Roedd cyn Brif Weinidog Cymru yn ffigwr dylanwadol, yn arweinydd ysbrydoledig ac yn gyfaill da i Gasnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Wrth ddarllen yr holl deyrngedau, roeddwn yn rhyfeddu cymaint o storïau personol sydd gan bobl amdano. Mae'n rhaid ei fod yn unigryw ymhlith gwleidyddion blaenllaw i fod wedi gwneud argraff bersonol ar gymaint o bobl ac yn adnabod cymaint o bobl.
"Ar ôl cwrdd â phobl, byddai bob amser yn cofio eu henwau y tro nesaf y deuai ar eu traws. Mae'r ochr ddymunol honno o'i bersonoliaeth yn un y bydd pawb yn ei chofio am byth.
"Roedd ganddo'r gallu ardderchog i siarad â phobl ar bob lefel ac roedd yna ymgysylltu gwirioneddol ac ymdeimlad o wneud y peth iawn a oedd mor amlwg ym mhopeth a wnaeth."