Newyddion

Cyngor Dinas Casnewydd yn sicrhau euogfarn gyntaf Rhentu Doeth Cymru

Wedi ei bostio ar Tuesday 30th May 2017
Rent-Smart-Wales-logo

Mae landlord o Gasnewydd wedi derbyn dirwy o £4,400 am osod tŷ amlfeddiannaeth peryglus, di-drwydded a methu â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.

Robert Ivor Grovell, Tram Lane, Llanfrechfa, Cwm-brân yw’r landlord cyntaf yng Nghymru i’w erlyn am beidio â sicrhau bod ganddo drwydded gyda Rhentu Doeth Cymru, cynllun gan Lywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhent preifat.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod landlordiaid yn cofrestru a bod landlordiaid ac asiantau rheoli yn cael eu trwyddedu o dan y cynllun.

Ers 23 Tachwedd 2016, mae landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru yn torri’r gyfraith.  

Cafodd Mr Grovell ei erlyn dan Adran 7(5) Deddf Tai (Cymru) 2014 yn Llys Ynadon Casnewydd am beidio â chydymffurfio.

Un o amryw o achosion gan Gyngor Dinas Casnewydd yn ei erbyn am droseddau yn gysylltiedig â thai oedd hon, yn achos eiddo yn Orchard Street, Casnewydd. Bu i Mr Grovell bledio’n euog.

Mewn archwiliad ar yr eiddo gan swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ym mis Rhagfyr 2016, daeth problemau difrifol i’r amlwg o ran y cynllun a ffurf yr eiddo a dihangfa a oedd wedi ei rhwystro gan ddodrefn ac eitemau eraill; gallai’r ddau beth fod wedi peryglu bywydau’r tenantiaid petai tân. Yn ychwanegol, roedd preswylwyr yn yr eiddo yn byw ynddo fel tŷ amlfeddiannaeth ond nid oedd Mr Grovell wedi gwneud cais am y drwydded angenrheidiol gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Dangosodd ymchwil Rhentu Doeth Cymru bod Mr Grovell wedi cofrestru ond heb drwydded, er ei fod yn gweithredu fel rheolwr ar yr eiddo.

Ers yr archwiliad, cwblhaodd yr hyfforddant gofynnol gan Rhentu Doeth Cymru a chyflwyno ei gais am drwydded.

Dywedodd Bethan Jones, Rheolwr Gweithredol Rhentu Doeth Cymru yng Nghyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Gymru: “Mae’r achos hwn yn garreg filltir i Rhentu Doeth Cymru gan mai dyma’r achos cyntaf o erlyn landlord nad oedd yn cydymffurfio.

“Mae’r achos yn anfon neges gadarn i landlordiaid eraill nad ydynt yn cydymffurfio ac sy’n dal i dorri’r gyfraith; dylai'r rhai nad ydynt wedi cydymffurfio gyflwyno'u hunain nawr er mwyn osgoi achosion yn eu herbyn."

Derbyniodd Mr Grovell ddirwy o £4,400 a bu’n rhaid iddo dalu costau gwerth £1,000 yn ogystal â gordal dioddefwyr o £170.

Bu i’r Cynghorwr Ray Truman, Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yng Nghyngor Dinas Casnewydd ganmol swyddogion am eu hymroddiad wrth ddod ag achos fel hwn i'r llys.

“Roedd hwn yn enghraifft o dorri rheoliadau tai amlfeddiannaeth yn ddifrifol, lle roedd preswylwyr mewn perygl oherwydd nad oedd y landlord yn cydymffurfio â rheoliadau hanfodol ar gyfer cadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.

“Dylai’r achos llys hwn atgoffa landlordiaid am yr angen i drwyddedu tai amlfeddiannaeth. Gall peidio â gwneud hynny arwain at ddirwy gan y llys heb gyfyngiad ar ei swm.

“Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn cadw at y rheolau sy’n berthnasol i’w heiddo rhent. Da iawn y swyddogion am ddirwyn yr achos hwn i ganlyniad llwyddiannus," dywedodd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.