Cyngor Dinas Casnewydd yn penodi Arweinydd a Chabinet
Wedi ei bostio ar Wednesday 17th May 2017
Yn dilyn yr etholiadau lleol ar 4 Mai lle sicrhaodd Llafur Cymru 31 o 50 sedd Casnewydd, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penodi’r Cynghorydd Debbie Wilcox yn ffurfiol fel Arweinydd y Cyngor.
Yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol, cyhoeddwyd Cabinet newydd hefyd.
Bydd portffolios y Cabinet, sydd wedi’u diwygio i adlewyrchu’r galw newidiol ar y gwasanaethau helaeth ac amrywiol y mae’r cyngor yn eu cynnig, yn cael eu cynnal gan gymysgedd o Aelodau Cabinet hen a newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae gorffennol Casnewydd yn bwysig i mi, ac rwy'n falch o'n hanes - ond mae fy ngolwg ar ddyfodol y ddinas.
“Rwy’n benderfynol y bydd y cyngor yn chwarae ei ran yn gwneud Casnewydd yn lle gwych i weithio ac ehangu busnesau, dysgu, byw a magu teulu.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweithio’n galed i godi proffil Casnewydd ac rwy’n llawn cyffro o gael parhau â’r dasg hon dros y blynyddoedd nesaf.
“Mae ein Cabinet a’r Cynghorwyr a ddewiswyd ar gyfer pob portffolio wedi’u dewis yn benodol gyda hyn mewn golwg – rydyn ni yma i wasanaethu pobl Casnewydd a gwneud popeth yn ein gallu i wella’r ddinas.”
Aelodau Cabinet a phortffolios
Arweinydd y Cyngor: Y Cynghorydd Debbie Wilcox
Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Asedau a Datblygu Aelodau: Y Cynghorydd Mark Whitcutt
Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau: Y Cynghorydd Gail Giles
Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: Y Cynghorydd Paul Cockeram
Yr Aelod Cabinet dros y Strydlun: Y Cynghorydd Roger Jeavons
Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai: Y Cynghorydd Jane Mudd
Yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio: Y Cynghorydd Ray Truman
Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau: Y Cynghorydd David Mayer
Yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden (Rheolwr Busnes): Y Cynghorydd Deb Harvey
Mae manylion llawn yr holl bortffolios ar gael yn www.newport.gov.uk